Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

30 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1961, Rhosllannerchrugog.
Bardd y Goron.
Llun 1: Jennie Eirian Davies mewn llawn hwyl fel llywydd y Brifwyl ddydd Mercher.
Llun 2: Siomwyd y cystadleuwyr a'r dorf yn y Fedal Ryddiaith eleni - ond y mae golwg hapus ryfeddol ar wynebau'r beirniaid (ac nid am iddynt atal y wobr ychwaith). Nid yw Islwyn Ffowc Ellis (chwith) wedi llawn ymollwng i chwerthin yn braf - ond y mae Dr Kate Roberts a John Gwilym Jones.
Llun 3: Un o uchel fannau huodledd yr wyl oedd y ceisiadau a wnaed gan yr Wyddgrug, Maldwyn a Llandudno am Brifwyl 1963. Ac uchafbwynt y cyfan oedd araith y Parch G T Roberts, ficer Aberconwy, a bardd coronog, dros Landudno. Gwelir y ficer yn ei wisg offeriadol ar dde y darlun - ac yn Llandudno y bydd y Brifwyl ar ôl Llanelli.
Llun 4: Cais gan ddirprwyaeth Llandudno am gynnal yr Eisteddfod yn 1963.
Llun 5 - 7: Dirprwyaeth Maldwyn yng nghyfarfod Llys yr Eisteddfod.
Llun 8: Mrs Ceinwen Evans Hughes Cadfan o Buenos Aires.
Llun 9: Seremoni amddifad iawn o ddagrau oedd seremoni croesawu'r Cymry ar Wasgar yn y Rhos. Cyn y seremoni honno y bu'r dagrau eleni. Ac roedd rheswm da gan Hugh Ellis, naw oed o Whittington, Sir Amwythig, dros roi dŵr ar y felin. Roedd Hugh ar wasgar - ac ar goll. Nid oedd afal mawr coch a gafodd gan rywun ar y maes yn ddigon i gadw'r dagrau draw, ac yn sicr nid oedd esgyn i'r llwyfan mawr agored i ddweud ei enw wrth Mr T W Jones, yr arweinydd, yn llawer o help. Gwnaed cyhoeddiad . . .
Llun 10: Ac o fewn dim - dacw nain yn dwad.
Llun 11 - 12: Theresia Hahn, 13 oed, ffoadur a fabwysiadwyd gan Ysgol Sul Eglwys Heol y Crwys, Caerdydd. Talasant iddi ddod draw i Gymru am dri mis o wyliau.
Llun 13: Dyma'r sanhedrin a'r Llys Barn - y dwys ystyrwyr myfyrgar yn gwrando'n astud iawn ar y ceisiadau'n cael eu gwneud am Brifwyl 1963 cyn penderfynu mai i Landudno yr ai. O'r chwith: Syr Thomas Parry-Williams, Cynan, Ernest Roberts (yn lle Dr Haydn Williams gan fod yr Wyddgrug yn gwneud cais), Ernest Roberts a T W Thomas.
Llun 14: Teifryn Rees o Fynachlog Ddu, enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts i gantorion ieuainc dan 25 oed. Hwn oedd ei bedwerydd ymddangosiad ar lwyfan y brifwyl, a'r tro cyntaf iddo ennill. Cipiodd y wobr flaenaf bedair gwaith yn Ngwyl yr Urdd a bu droeon ar y blaen yn Eisteddfod is-genedlaethol Aberteifi. "Enillais y gamp y tro hwn" meddai "drwy benderfyniad a chyfran fechan o lwc." Ychwanegodd yn swil: "Ni chredwn fod gennyf y llais i gystadleuaeth o safon genedlaethol."
Llun 15: Yr hynaf o unawdwyr a gystadleuai yn y Rhos oedd Mr Hugh E Roberts (Tenorydd yr Eifl), Llithfaen. Mae'n 77 oed a bu'n canu'n ddifwlch am bum mlynedd a thrigain. Enillodd dros 750 o wobrau.
Llun 16: Wilfred Davies o Lanyre a Tom Thomas o Lanwrthwl, y buddugwyr ar y ddeuawd i denor a baritôn yn y Brifwyl.
Llun 17: Dilys Wynne Williams yn derbyn cwpan MacMahon o law Meic Parry wedi buddugoliaeth Côr Ieuenctid Gwynedd ddydd Llun. Yr oedd hefyd £25 o wobr.
Llun 18: Cwmni drama Cymry Llundain. Yn y cylch y cefn gwelir Ieuan Davies (o Lundain), David Richards (Llundain), John Huw Evans (Borth, Ceredigion), W E Griffiths (Abersoch), Howard Goodfellow (Tymbl), Rhydderch Jones (Aberllefenni), Iwan Thomas (Alltwen) a Bryn Richards (Llundain). Yn y blaendir y mae Margaret Lewis (Llangadfan), Mari Vaughan Jones (Llundain) a Ryan Davies (Llanfyllin).
Llun 19: Aelodau o Gwmni Drama Cymry Llundain: Margaret Lewis (Llangadfan), Mari Vaughan Jones (Llundain), Ryan Davies (Llanfyllin) a Rhydderch Jones.
Llun 20: Aelodau o Gwmni Drama Cymry Llundain: Rhydderch Jones, Margaret Lewis, Mari Vaughan Jones a Ryan Davies.
Llun 21: O'r chwith, Sylvia Jones a Mrs Delyth Llwyd Jones, o'r Wladfa; Susanna Humphreys ac Ethel Morgan o'r Andes.
Llun 22 - 27: Y Cymry ar Wasgar
Llun 28: Y dyrfa ar faes yr Eisteddfod
Llun 29 - 30: Bardd y Goron.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw