Skip to main content

Yr Eisteddfod Genedlaethol, Aberafan 1966

Disgrifiadau

32 negatif: du a gwyn. Yr Eisteddfod Genedlaethol, Aberafan 1966.

Llun 1: Yr Henadur Llewelyn Heycock, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Aberafan a'r Cylch yn derbyn cynoeddiad swyddogol i agor yr Eisteddfod gan lywydd Llys yr Eisteddfod Syr T. H. Parry-Williams.
Llun 2: Yn ystod y seremoni agoriadol yn Aberafan ddydd Llun, urddwyd Brynallt yn Gymrawd o'r Eisteddfod - yr anrhydedd pennaf y gall y Llys ei roddi am wasanaeth i'r Wyl. Dim ond dau arall a dderbyniodd yr anrhydedd hwn - Dr. William George a Chrwys. 'y mae gennym yn awr drindod hyglod o Gymrodyr' meddai Syr T. H. Parry-Williams wrth arwisgo Brynallt, a fu am flynyddoedd lawer yn drysorydd ac ysgrifennydd ariannol Llys yr Eisteddfod.
Llun 3: Dim Disgrifiad
Llun 4: Mr Fred Prior, Tonypandy, yr arweinydd, gydag aelodau band gweithwyr canolbarth y Rhondda, wedi ennill y gystadleuaeth i fandiau dosbarth A.
Llun 5: Parti penillion Pontrhyd-y-fen a ganai gywydd gwahodd wrth agor yr Eisteddfod.
Llun 6: Mr Trefor Jenkins, cadeirydd Pwyllgor Celfyddydau a chrefft yn trafod gwaith a arddangoswyd gyda Mr. Elis Gwyn Jones.
Llun 7 - 8: Ar y llwyfan wrth agor yn swyddogol yr Arddangosfa Celfyddydau a Chrefft - Mri G. M. Hapgood, is-gadeirydd pwyllgor celfyddydau a chrefft, Merlyn Evans, enillydd y Fedal Aur, Llewellyn Heycock, cadeirydd y pwyllgor gwaith, Trefor Jenkins, cadeirydd y pwyllgor celfyddyd a chrefft, Eben Jones, Trysorydd a Dr. Roger Webster, Cyfarwyddwr Pwyllgor Cymreig y Celfyddau.
Llun 9: Yr Archdderwydd Gwyndaf o dan ei ymbarel ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod.
Llun 10: Ymwelwyr a'r Arddangosfa Gelfyddyd a Chrefft yn rhyfeddu at un o'r cynhyrchion yn yr agoriad swyddogol.
Llun 11: Neal Harris, Hywel Davies, Neal a Gwyndaf Morris - cymeriadau yn y pasiant.
Llun 12: Mr Jacob Davies, un o arweinwyr yr Wyl yn cyflwyno cwpan 'Y Cymro' i Mr Ivor Evans, arweinydd Cor a enillodd y prif gystadleuaeth corawl.
Llun 13: Bendigeidfran - Gareth Evans, Esgob - Glanrille Compton, Blodeuwedd - Rhian Denby o Ysgol Pontarddulais yn y pasiant Nos Lun.
Llun 14: Plant Ysgolion Pontrhyd-y-fen, Castell Nedd, Aberdar a Pontypridd - Normaniaid y pasiant.
Llun 15: Enillwyd Cwpan Coffa MacMahon gan Gor Aelwyd Caerdydd a chodwyd yr arweinydd, Mr Alun Guy, i'r entrychion gan aelodau'r Cor wedi'r fuddugoliaeth.
Llun 16: Alun Landry o Bontardawe, aelod o fand Ystalyfera - cyntaf ar yr unawd corned.
Llun 17: Crwys gyda'r Parch. D. Elwyn Davies Trebanos.
Llun 18: Gwnaed cais llwyddiannus am Eisteddfod 1968 gan y Barri. Yn gefn i'r cynrychiolwyr daeth tyrfa i roi angerdd i'r cais.
Llun 19: Margaret Thomas, Gorseinon, a enillodd yr unawd mezzo-soprano.
Llun 20: Cynrychiolwyr y Barri a wnai gais am Eisteddfod 1968 Mr Maldwyn Pate, myfyriwr yng ngholeg y Brifysgol Aberystwyth, ac un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Gymraeg y Barri, y Parch. J. Huw Griffiths, cadeirydd; Mr Hywel ap Roberts a Mrs Dorothy Rees.
Llun 21: Cor Cymry Llundain a enillodd gystadleuaeth corau rhwng 16 a 30 oed heb fod yn llai na 30 o leisiau.
Llun 22: Y tro cyntaf erioed i Mrs Robert J. Williams, o Chicago (canol), gyfarfod ag Annwen Williams o Landdona (ar y dde), merch ei chefnder, oedd ar ol i Annwen ennill y wobr gyntaf am adrodd dan 18 oed. Y tro diwethaf i Mrs Williams ymweld a'r Brifwyl oedd ym Mhwllheli 41 mlynedd yn ol.
Llun 23: Cor Madrigal Deudraeth a ddaeth yn ail i gor Llundain gyda'u harweinydd, Harry Jones-Williams.
Llun 24: Glyn Owen a Morfydd Williams gyda William Lewis, Llangefni, (gitar) a enillodd ar y ddeuawd agored I gyfeiliant gitar.
Llun 25: Menna Jones, Llangefni, cyntaf ar adrodd rhan o'r ysgrythur I rai rhwng 12 a 15 oed.
Llun 26: Elwyn Davies, Llanbrynmair, a enillodd y gystadleuaeth Cerdd Dant. Gydag ef ar y llwyfan, Huw Jones, arweinydd a Gwenllian Dwyryd.
Llun 27: Cor Llangatwg a enillodd gystadleuaeth i gorau dan 18 oed.
Llun 28: Cor Twrog, Llangefni, ail yn y gystadleuaeth i gorau ieuenctid 16-30 oed.
Lluniau 29 - 30: Robin Williams, Llangennech, Llanelli, cyntaf gyda'r fiolin dan 18 oed.
Llun 31: Mona Meirion Jones, Morannedd, Ffestiniog, cyntaf am ganu'r delyn dan 18 oed.
Llun 32: Cyflwyno gwobr Academi i Emyr Jones, Ysgolfeistr Betws y Rhos, Abergele. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Islwyn Ffowc Elis a D. Gwenallt Jones. Yn y darlun gwelir D. J. Williams yn cyflwyno'r wobr.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2020
Gwelediadau:
1164
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment