Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol 1960, Caerdydd

Disgrifiadau

21 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1960, Caerdydd.
Ken Morgan a Byron Williams, Coed Duon yn cystadlu yn yr adran ddiwydiannol.
Llun 1: Dim Disgrifiad
Lluniau 2 - 3: Un o'r rhai gafodd y derbyniad mawr yn y Pafiliwn oedd Cyrnol Cennydd G Traherne, Arglwydd Raglaw Sir Forgannwg a gyfarchodd y dorf mewn Cymraeg cymeradwy iawn. Bu'n dysgu'r iaith yn ddyfal a dyg ers tro byd i ymberffeithio ar gyfer yr achlysur hwn ddydd Llun.
Llun 4: Ledio'r ffordd yn yr Orsedd fore Mawrth. Dilwyn Miles, Cynan William Morris a'r Archdderwydd Trefin.
Llun 5: Y beirdd ar eu taith drwy'r maes tua'r pafiliwn a'r llwyfan a'r seremoni -- ond dim cadeirio. Yr Archdderwydd Trefin, Crwys, Cynan, William Morris a Dilwyn Miles.
Lluniau 6 - 9: Y beirdd ar eu taith drwy'r maes.
Llun 10: Aelodau newydd o'r Orsedd yn seremoni'r Orsedd fore Mawrth.
Llun 11: Yr Archdderwydd ar y maen Llog fore Mawrth.
Llun 12: Seremoni'r Orsedd yn haul y bore ger y Castell. Yr archdderwydd ar y Maen Llog.
Llun 13: Dadweinio'r cledd ar y Maen Llog fore Mawrth.
Llun 14: Yr Archdderwydd Trefin ar y Maen Llog yn ystod seremoni'rr Orsedd fore Mawrth.
Llun 15: Yr Archdderwydd Trefin a Cynan yn derbyn aelod newydd i'r Orsedd.
Llun 16: Aelodau newydd o'r Orsedd ar fin cael eu hurddo yn y Seremoni fore Iau.
Llun 17: Aelodau o Lys yr Eisteddfod ar y llwyfan yn ystod y seremoni agoriadol.
Llun 18: Yr oedd gan fand Deudraeth ddigon o gefnogwyr yng Nghaerdydd, a daethant i edmygu'r tystysgrif ail wobr yn Nosbarth C, sydd yn nwylo'r arweinydd E A Humphreys wedi'r gystadleuaeth ddydd Llun.
Llun 19: Hir fu'r daith a chostus (dros �450) i Gor Caernarfon dan arweiniad Dilys Wynne Williams, cyn iddynt ymddangos ar y llwyfan ddydd Llun. Dim gwobr ychwaith -- ond amnaid hyfryd ar ran cartre'r Brifwyl y llynedd, er hynny, oedd yr ymweliad.
Llun 20: Cyflwyno cwpan 'Y Cymro' i arweinydd Cor Cymraeg Rhydaman unwaith eto, ym mhrifwyl Caerdydd. Hywel G Evans receives the cup.
Llun 21: Nodwedd arbennig o'r Brifwyl hon oedd yr adrannau diwydiannol. Yma, mewn cystadleuaeth i'r glowyr, dengys Ken Morgan a Byron Williams, Coed Duon (bro'r Archdderwydd), eu medr efo rhaff o ddur. Eu job yw 'capio' -- dodi cap ar ben y wifren. Gwaith y medrant ei wneud yn eu dillad gorau, mae'n amlwg.
Llun 22: Ken Morgan a Byron Williams, Coed Duon yn cystadlu yn yr adran ddiwydiannol.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2020
Gwelediadau:
775
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment