Eisteddfod Genedlaethol 1968, Y Barri
Disgrifiadau
Lluniau 1 - 2: Dau o'r bechgyn fu'n gwerthu copiau o'r 'Western Mail' ar faes yr Eisteddfod
Llun 3: Mrs Dorothy Rees, cadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddofod y seremoni agoriadol. I'r chwith iddi mae Geogre Thomas A.S. Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Llun 4: Cynan yn y seremoni agoriadol. I'r dde iddo gwelir y Dr. Stephen J. Williams, cadeirydd Cyngor yr Eisteddfodd
Llun 5: Dim Disgrifiad
Lluniau 6 - 7: Goronwy Williams yn canu Cywydd y Croeso ar lwyfan
Llun 8: Cynan yn urddo Syr T. H. Parry-Williams yn Cymrawd o'r Eisteddfodd
Lluniau 9 - 10: Aelodau o Lys yr Eisteddfodd ar y lwyfan yn ystod y seremoni agoriadol. O'r chwith Syr T. H. Parry Williams, Ernest Roberts a Brynallt
Llun 11: Cyflwyno medal goffa Alwyn Lloyd i Graham Brooks gan Mr E. D. Lewis, cadeirydd y pwyllgor celfyddyd a chrefft.
Llun 12: Graham Brooks ar ol iddo dderbyn medal goffa Alwyn Lloyd (am bensaerniaeth) gan Mr E. D. Lewis, cadeirydd y pwyllgor Celf a Chrefft.
Llun 13: Debora Evans pedwar mis a hanner oed, gyda'i thad Geoffrey Evans, Caerffili.
Llun 14: Debora Evans pedwar mis a hanner oed, gyda'i thad Geoffrey Evans, Caerffili.
Llun 15: Debora Evans gyda'i mam, Mrs Geoffrey Evans.
Llun 16: 'Mam annwyl mae 'na le diddorol yma - a dyma ydi diwylliant - 'tawn i'n cael fy ffordd fy hun mi - '. Debora Evans, pedwar mis a hanner oed, merch Mr a Mrs Geoffrey Evans, Caerffilli.
Lluniau 17 - 18: Debora Evans gyda'i thad, Geoffrey Evans, Caerffili.
Lluniau 19 - 20: Glenda Palmer o Lanelli, un o aelodau Cwmni Theatr Cymru yn gwerthu cylchgrawn newydd "Llwfan" i Mr Bryn Williams.
Lluniau 21 - 22: Dim disgrifiad
Lluniau 23 - 24: Michael Wright ac Alan Taylor (o'r BBC), cynllunwyr yr arddangosfa ffotograffiaeth.
Lluniau 25 - 26: Clemens Kalisher, Stockbridge, Massachusetts, o flaen y llun a enillodd y wobr o �250 yn y brif gystadleuaeth ffotograffiaeth.
Llun 27: D. J. Williams, Abergwaun a Cassie Davies ar Faes yr Eisteddfodd.
Llun 28: Dydd Mawrth yr oedd y Tlysau, y grwp canu ysafn Cymraeg o Lanbedr Pont Steffan, yn canu mewn rhaglen brotest a defnwyd yn y Babell Len. Ond drwy gydol yr wythnos, ac eithrio'r ychydig amser fuont yn canu yn y Babell Len, bu'r tair merch yn gwerthu llaeth yng ngharafan y Bwrdd Marchnata Llaeth. Heblaw hynny bydd y record allan ddydd Iau. O'r chwith i'r dde: Gillian Davies, Eirlys James a Delyth Davies.
Llun 29: Alun Guy, arweinydd Cor Aelwyd Caerdydd a enillodd y gystadleuaeth i gorau ieucenctid. Caswant gadw Cwpan Coffa MacMahon ar ol ei ennill deirgwaith yn olynol.
Llun 30: Alun Guy, arweinydd Cor Aelwyd Caerdydd a enillodd y gystadleuaeth i gorau ieucenctid. Caswant gadw Cwpan Coffa MacMahon ar ol ei ennill deirgwaith yn olynol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment