Skip to main content

Llythyr oddi wrth Llwyd ap Iwan at ei rieni, y Parch. a Mrs Michael D. Jones, a'i chwaer, Mair erch Iwan, 1891 [tudalen 1, delwedd 1 o 3]

Disgrifiadau

Ysgrifenna Llwyd ap Iwan at ei rieni a'i chwaer i roi gwybod iddynt fod J. S. Williams, James Aaron a Thomas Griffith wedi cyrraedd yn ddiogel ar y 'Trinidad' ond bod 'mintai yr aur' yn parhau yn Buenos Aires, ac nid oes disgwyl iddynt gyrraedd am rai wythnosau. Mae'n gobeithio y byddant yn darganfod llawer o aur yn yr Andes, fel y bydd modd i filoedd o weithwyr ennill cyflog da. Dywed y bydd hyn hefyd yn annog mwy o bobl i ymfudo i Batagonia. Yn ei farn ef, os bydd aur yn cael ei ddarganfod bydd 'yn iachawdwriaeth neu ddamnedigaeth i ni fel gwladfa Gymreig'.

Sonia Llwyd ap Iwan hefyd am yr angen am fwy o longau i gario nwyddau at yr afon. Dywed ei fod yn drueni mawr fod y fasnach longau yn nwylo tramorwyr ac nad oes yr un morwr Cymreig yn y Wladfa. Dywed ei fod yn gobeithio teithio i Gymru yn ystod y blynyddoedd nesaf gyda'i wraig Myfanwy. Soniodd am eu priodas yn ei lythyr diwethaf. Yr wythnos o'r blaen, galwodd y Parch. a Mrs Abraham Matthews a rhoesant anrheg priodas iddynt. Mae'n rhybuddio ei rieni i beidio ag anfon unrhyw anrhegion ato gan fod ganddynt bopeth sydd ei angen. Fodd bynnag, byddai'n gwerthfawrogi'n fawr ffotograff o'u hwyrion (ei ddau nai) o Fangor.

Mae darn olaf y llythyr yn ddyddiedig 15 Gorffennaf ac mae Llwyd yn ymddiheuro nad yw wedi cael cyfle hyd yma i bostio'r llythyr. Dywed fod 'Williams Mostyn' [E. J. Williams] a'i wraig wedi galw i'w gweld a'u bod oll wedi mynd i'r wyl de ym Mryn Crwn ar nos Sul. Nid yw Capten William Richards a gweddill 'mintai'r aur' wedi cyrraedd.

Owner:
Bangor University Archives and Special Collections
Crëwr:
Ap Iwan, Llwyd
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor
Copyright Details:
Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor 2010
Publisher Ref:
cnp00249
Eitem wedi’i llwytho:
28/4/2010
Date originally created:
1891
Gwelediadau:
847
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment