Llythyr oddi wrth Llwyd ap Iwan at ei frawd yng nghyfraith, yr Athro Thomas Rhys, 11 Ebrill 1892 [tudalen 1, delwedd 1 o 3]
Disgrifiadau
Ysgrifenna Llwyd ap Iwan at ei frawd yng nghyfraith i ddiolch iddo am ei lythyrau. Dywed wrtho ei fod yn cael trafferth canfod amser i ysgrifennu, a phan fo ganddo hamdden, mae'n dewis darllen. Dywed fod y Tract Society yn cyhoeddi llyfrau 'pur dda' a'i bod yn ymddangos iddo bod 'syniadau yn newid yn fawr mewn perthynas i grefydd neu olygiadau crefyddol yn yr hen wlad'. Dymuna ddychwelyd i Gymru er mwyn cael gafael ar lenyddiaeth 'ffresh a goleuedig' ar y testunau hyn. Wedi iddo nodi rhai llyfrau y mae wedi eu darllen, gofynna am ffotograffau o'r plant a'r teulu cyfan. Mae'n holi hefyd am Lewis Jones a'i deulu, a Ceinion Thomas a'i wraig.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment