Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tŷ dryw a wnaed gan Richard Cobb, clochydd eglwys Marloes, Sir Benfro, ym 1869. Roedd hwn yn gopi o dŷ yr oedd wedi ei wneud chwe deg mlynedd yn gynt. Cyflwynwyd y tŷ dryw i'r Amgueddfa gan T. H. Thomas (Arlunydd Penygarn) ym 1898. Defnyddiwyd y tŷ dryw yn ystod dathliadau Noson Ystywyll mewn sawl rhan o Gymru. Byddai'n rhaid dal dryw a'i ladd, cyn gosod ei gorff yn y tŷ a addurnwyd gan rubanau. Yna, byddai'r tŷ yn cael ei gario o amgylch y pentref ar bedwar polyn, yn debyg i arch, gan bedwar dyn, pob un ohonynt yn esgus griddfan oherwydd y pwysau trwm yr oeddynt yn ei gario. Byddai'r dynion yn galw yn y tai lleol gan ganu penillion ar ffurf cwestiwn ac ateb, cyn derbyn gwahoddiad i dderbyn bwyd a diod yn y tŷ. Hyd 35 cm, uchder 23 cm.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw