Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyddiad: 18 Hydref 1918

Trawsysgrif:

GOLGHI 22 O GYRFF I'R LAN YM MHWLLHELI.

Yn ystod diwedd yr wythnos golchwyd 22 o gyrff i'r lan yn Lleyn, sef yn Aberdaron, Porth Neigwl, Llandegwnig, Abererch a Phwllheli. Cafwyd rhai o'r cyrff gan y pysgotwyr yn nofio ar wyneb y dwfr. Bu i'r long o'r enw Burutu, perthynol i'r Elder Dempster Co., gael ei suddo mewn gwrthfarawiad wythnos yn ol a chollwyd 170 o fywydau, ac y mae sicrwydd mai cyrff y cyfryw yw'r rhai hyn.

Bu i Mr. O. Robyns Owen gynal trengholiad ar ddeg o'r cyrff dyddiau Iau a Gwener ac yr oedd Mr. Arthen O. Owen yn bresennol ar ran cwmni'r llong, ac yn datgan cydymdeimlad a theuluoedd yr ymadawedig. Wele rhai o'r personau a gafwyd:—

Dr. R. Bealle Brown, o Lerpwl, oed tua 40; E. G. Mercer, 35, peirianydd, mab Uch-gapten Mercer o Sidcup, Kent; Muriel S. Belwar, boneddiges briod gyda'r dyddiad 3.11.15 ar ei modrwy a'r enw Muriel;, Harry Giles Gee, cafwyd yn Porth Neigwl gwallt du, ac yn 5 troedfedd, 11 modfedd o daldra; George A. Wilson, cafwyd yn yr un lle; Julius Bruse Adlam. Yr oedd tystysgrif genedigaeth plentyn yn ei logell dyddiad 5.3.14 arni; W. Hunford yr oedd modrwy ar ei law gyda'r llythyrenau L.E.T. i W.H. arni; Lumsden Mathlson, peiriannydd, Southshield; William George, Blackburn, peirianydd, Southshield; Arthur Mosley, Wesy Derby Road, Lerpwl, yr oedd darlun yn ei logell a'i hanes yn cael ei saethu yn ei goes pan yn glanio milwyr yn y Dardanelles. Yr oedd ol yr ergyd i'w weled yn ei goes. Cigydd ydoedd ef ar y llong. Yn hwyr nos Wener daeth corff nyrs oedrannys i'r lan ger Pwllheli.


Ffynhonnell:
‘Golchi 22 o gyrff i'r lan ym Mhwllheli.’ Y Dydd. 18 Hyd. 1918. 3.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw