Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyddiad: 18 Hydref 1918

Trawsysgrif:

TRYCHINEBAU AR Y MOR.
Anfadwaith y Gelyn.

Pan mae'r gelynion yn son am heddwch maent ar yr un pryd yn cyflawni anfadwaith ar dir a mor—ar dir trwy losgi ac anrheithio trefi gogledd Ffrainc, ac ar y mor trwy suddo llongau yn cludo gwyr, gwragedd, a phlant diniwed. "Bwystfilod creulawn oedd yr Ellmyn ar ddechreu'r rhyfel." meddai Mr. Balfour ddydd Gwener, "ac, mor bell ag y gallaf farnu, maent yn parhau felly hyd y foment hon."

Foreu Iau pan ar fordaith o Kingstown, (Iwerddon) i Gaergybi suddwyd yr agerlong adnabyddus Leinster yn ddirybudd gan fâd tanforawl y gelyn. Yr oedd 680 o deithwyr ar ei bwrdd ac oddeutu 70 o ddwylaw. Ofnir fod oddeutu 500, yn cynnwys gwyr, gwragedd, a phlant, wedi colli eu bywydau, ac fod teuluoedd cyfan wedi boddi.

Tarawyd hi gan torpedo o fad tanforawl y gelyn pan oedd heb fod neppell o arfordir Iwerddon. Ceisiwyd troi yr agerlong am dir, ond tarawyd hi eilwaith a hynny yn ei chanol. Y canlyniad fu chwythu'r bont yn ddarnau, a dinystrio cwch yn yr hwn yr oedd oddeutu 70 o bersonau.

Tynged y Capten.

Dywedir i Capten Birch, gael ei chwythu yn ddarnau. Y mae dau o'r swyddogion (mates), Crespin a Hughes, hefyd, wedi colli eu bywydau. Gellir dweyd yr un modd am y rhan fwyaf o'r dwylaw. Allan o 22 o lythyrgludwyr oedd ar y bwrdd collodd 20 eu bywydau. Daeth llawer o longau i'r lle i roddi help, ond bu i'r Leinster suddo ymhen chwech neu saith munyd ar ol iddi gael ei tharaw yr ail dro. Y mae'n agos i ddeugain o gyrff wedi eu golchi i'r lan.

Dyma ddywedodd un o'r rhai a achubwyd: "Gadawson Kingstown am oddeutu naw o'r gloch yn y boreu. Ar y pryd yr oedd niwl trwchus, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r teithwyr yn y cabanau. Yr oedd hefyd yn foriog iawn, a rholiai y llestr yn arw. Aethum i oleuo'm pibell, ac yna clywais waedd, a swn rhywbeth, fel pe'n rhwygo. Dechreuodd y Leinster fyned i lawr. Gollyngwyd y cychod rhag blaen. Yr oedd Capten Birch ar y bont. Gwnes fy ngoreu i helpu'r merched a'r plant. Gwaeddodd rhywun, 'Y mae torpedo arall yn dyfod.' Yna tarawyd yr agerlong, a chymerodd ffrwydriad ofnadwy le. Collais fy ymwybyddiaeth. Yna cefais fy hunan nesaf ar lanfa Kingstown.["]

Pan ddarfu i long ryfel Americanaidd saethu at y cwch tanforawl diflanodd. saethu aycwch tanforawl diflanadd.

Suddo Llestr arall.

Cafodd lestr Japanaidd, Hirano Maru, perthynol i Tokio ei suddo gan gwch tanforawl y gelyn tuallan i arfordir yr Iwerddon. Roedd ar ei bwrdd 200 o deithwyr, a 120 o ddwylaw. Ofnir fod 300 wedi boddi, yn cynnwys merched a phlant. Aethant i ddyfrllyd fedd yn ddirybudd yng nghanol ystorm.

[...]


Ffynhonnell:
‘Trychinebau ar y mor.’ Y Dydd. 18 Hyd. 1918. 3.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw