Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll ger Vicksburg, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 29 Mai 1863 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Yn y llythyr hwn, a nifer o'r rhai sy'n dilyn, mae John Griffith Jones yn disgrifio brwydr Vicksburg. Cynhaliwyd y frwydr rhwng Mai a Gorffennaf 1863 ac mae llawer o haneswyr yn cydnabod fod buddugoliaeth yr Undebwyr yn drobwynt yng nghwrs y rhyfel cartref.
Ymddiheura John am beidio ag ysgrifennu yn fwy cyson ond mae wedi bod yn brwydro am ddeng niwrnod o flaen muriau Vicksburg. Mae wedi brifo un o'i fysedd ond mae'n teimlo'n ddiolchgar mai hwn yw ei unig anaf.
Dywed fod llawer o fywydau wedi eu colli a bod y gwrthryfelwyr wedi cynnig
'rhoddi y lle i fynu ond iddi nhw gaul rhiw 3 dyn yn rhydd yr ydym am y cwbl neu ddim'.
Dywed fod Cadfridog Logon wedi creu twnnel o dan un o'r caerau a bod popeth yn barod i'w chwythu i fyny. Mae un arall bron yn barod i gael ei ddinistrio yn yr un modd.
Mae rhai o'r Cymry wedi dychwelyd ac mae John yn falch o hyn er mae'n dweud mai dim ond fe a J. W. Jones sydd wedi 'ei standio yn strait pur trwu y tan ar dwr'.
Mae'n dweud eu bod wedi gorwedd ar eu harfau o dan y gwrthryfelwyr llawer noson.
Mae tair neu bedair catrawd o filwyr duon yn cael eu drilio ac maent yn dysgu yn rhagorol. Maent yn cael eu galw yn 'Mississippi Federals'.
Mae John unwaith eto yn cynghori pob bachgen o dan ddeunaw i aros adref
'i mau yn ddigon o waith i ddynion cryfion ei sefyll heb sôn am rai bychain gwelais i rai yn gorwadd yn glwt i lawr'.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment