Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones at ei rieni a'i frawd yn Beaver Dam, Wisconsin, 30 Hydref 1862 [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Dywed John fod y dynion i gyd yn iach heblaw am John Owens, sydd wedi'i adael yn yr 'hospital'. Maent yn disgwyl y bydd yn eu dilyn yn fuan.
Bu'n rhaid iddynt gychwyn am wyth o'r gloch fore dydd Mawrth o Paris gan orymdeithio dwy filltir yn bellach na'r bwriad oherwydd fod y milwyr wedi
'blockadio y pike road am 5 milltir'.
Yn ôl John Griffith Jones, mae'r 'pike road' yn debyg i ddisgrifiadau ei rieni o ffyrdd yr 'hen wlad'.
Mae'n sôn fod y milwyr yn dew am filltiroedd a'i fod yn anodd iawn dweud faint yn union sydd yno.
Mae John wedi gweld dwy fil o wŷr meirch a phan maent yn dod at ei gilydd
'mi fydd yr olwg arnynt yn arswydol'
Mae'r Is-Gyrnol Edmund Jusan[?] wedi adrodd ar y Brigadydd Burbrige am gymryd ei 'niger'.

Mae John yn teimlo'n lled ddrwg wedi iddo glywed am farwolaeth Henry Jones.

Ar drydedd dudalen y llythyr hwn, mae John yn ysgrifennu yn benodol at ei frawd. Mae'n dweud mai dim ond un Cymro sydd wedi bod yn y 'guard house' ac mai'r Cymry sy'n derbyn y ganmoliaeth uchaf gan y swyddogion. Mae'n sôn eu bod wedi gorymdeithio gan ganu 'raly round the flag' wrth basio'r Brigadydd Johnson. Maent yn cael 'llawer o fun hefo y nigers' a phrynhawn dydd mawrth fe wnaeth un weiddi wrth iddynt basio.
'buley[?] for Wisconsin hurah for the union down with the traitors'.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26029
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
30/10/1862
Gwelediadau:
1151
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment