Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 20 Hydref 1862 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae John yn diolch i'w rieni am eu llythyr ac yn sôn nad oedd wedi cael cyfle i ysgrifennu tra'r oeddynt yn gorymdeithio tuag at Lexington, Kentucky.
Mae rhai cwmnïau wedi eu hanfon i'r piced, pum milltir o'r camp, ond mae cwmni John Griffith Jones yn gwarchod pont rheilffordd sydd wedi costio gormod i'r gwrthryfelwyr ei llosgi. Mae digon o ddŵr yn gyfleus ac maent wedi gosod eu camp wrth ymyl y bont. Mae'r wlad ychydig yn brafiach yma nac yn Camp Bates ond dywed nad oes neb bron gerllaw heblaw am 'nigars'.
Mae'n sôn fod y milwyr yn edrych yn dda wrth
'marchio ar hyd y fordd'.
Mae'n nodi fod pawb wedi ennill pwysau ers gadael Camp Bates a'i fod wedi ennill deuddeg pwys. Mae'n esbonio hyn drwy ddweud fod digon o wartheg tewion yn cyrraedd bob dydd. Nid ydynt ychwaith yn gorfod cario eu 'knapsacks' eu hunain, yr unig reng sy'n cael osgoi gwneud hyn. Dywed fod y 'knapsacks' yn ddigon i ladd dyn
'yr oydd Colonel Guppy yn dweyd fod yn well ganddo bryny myl na cholli dyn'.
Yn ôl John, maent yn cymryd mantais o bob cyfle i ddarllen a chanu ac maent yn cael cryn bleser o lyfr canu Owen Owens.
Ar ben y llythyr hwn y mae llun printiedig coch.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment