Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llong hwylio 4-hwylbren a suddwyd ar 12 Mehefin 1915 gan yr U 35 wrth deithio o’r Barri i Frasil gyda llwyth o lo oedd y CROWN OF INDIA. Goroesodd 23 o’r criw. ‘Roeddwn i i fyny ar y brif hwyl-lath reiol pan hedfanodd yr ergyd ‘rybuddio’ gyntaf drwy’r frig-hwyl. Fe aethom yn ddiogel i’r badau achub. Aeth ein llong i lawr starn yn gyntaf dan ei holl hwyliau ac roedd hi’n olygfa odidog.’ Meddai llongwr o Japan: ‘Allwn ni ddim achub dim ond ni ein hunain a bu’n rhaid i gathod y llong farw.’ (Stori aelod o’r criw.)

Ffynhonnell:
Texas Tech University Libraries.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw