Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr oddi wrth John Roberts, Capten y BEESWING, i’w gyfaill, Capten Brown o’r KILLARNEY, ar ôl iddynt gyrraedd adref yn ddiogel. Roedd y BEESWING ar ei ffordd o Pensacola, Florida, i Lerpwl gyda llwyth o goed pan gafodd ei stopio gan y llong danfor Almaenig yr U 58 ar 2 Mai 1917, 140 milltir i’r gorllewin o Fastnet, a’i suddo gan ei gynnau. Bum diwrnod yn ddiweddarach, cafodd y KILLARNEY, llong arall o eiddo Walmsley, ei stopio a’i suddo yn yr un ardal gan yr U 21 o dan KapLt Otto Hersing. Goroesodd pob aelod o’r ddau griw.

Ffynhonnell:
Peter Masters, Cymdeithas Hanes Eifionydd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw