Stori'r BEESWING

Barc mawr wedi’i wneud o ddur a adeiladwyd ym 1893 oedd y BEESWING. Roedd y llong hwylio’n cael ei rheoli gan y Brodyr Prichard o Borthmadog a phobl leol oedd yr holl gyfranddalwyr. Daeth y criw o ryw 22 o ardal Porthmadog gan mwyaf. Ym 1911 cafodd y llong ei gwerthu i J. Walmsley yn Lerpwl. Adeg ei cholli, ei chapten oedd John Roberts o Gricieth. Roedd y BEESWING ar ei ffordd o Pensacola, Florida i Lerpwl gyda llwyth o goed pan gafodd ei stopio gan y llong danfor Almaenig yr U 58 ar 2 Mai 1917, 140 milltir i’r gorllewin o Fastnet, a’i suddo gan ei gynnau. Bum diwrnod yn ddiweddarach, cafodd y KILLARNEY, llong arall o eiddo Walmsley, ei stopio a’i suddo yn yr un ardal gan yr U 21 o dan KapLt Otto Hersing. Goroesodd pob aelod o’r ddau griw.

Awgrymwyd y deyrnged hon gan Robert Cadwalader. Ar y cyd ag Amgueddfa'r Môr Porthmadog.

Mae 3 eitem yn y casgliad

  • 530
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 559
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 470
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi