Cymru Cofio
Tudalen Etifeddiaeth Rhaglen Cymru’n Cofio
Mae’r wefan hon yn adlewyrchu’r effaith gafodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru – a’r effaith gafodd Cymru ar y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod, bydd yn adlewyrchu’r ffordd y bydd pobl Cymru’n coffáu’r canmlwyddiant pwysig hwn trwy wybodaeth a ddarperir gan unigolion, cymunedau a sefydliadau yng Nghymru.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw darparu Rhaglen Fframwaith gynhwysol a fydd yn cynnwys digwyddiadau ac arddangosfeydd cenedlaethol. Bydd gweithgareddau cymunedol, a phrosiectau a rhaglenni addysgol yn ategu’r rhain. Mae Is-Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd, Llywodraeth Cymru, yn datblygu’r fframwaith hwn mewn ymgynghoriad â Bwrdd Rhaglen y Canmlwyddiant. Yr Athro Syr Deian Hopkin yw Cadeirydd y Bwrdd, ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau perthnasol.
Cyhoeddiadau:
Rhaglen Fframwaith
Caiff gweithgaredd coffáu yng Nghymru ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth a sefydliadau allweddol ledled y wlad. Mae’r Rhaglen Fframwaith ar gyfer y Coffáu yng Nghymru’n gosod gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y canmlwyddiant ac yn amlinellu rhai o’r prif ddigwyddiadau sydd ar y gweill ar gyfer cyfnod y coffáu rhwng 2014 a 2018.
Mae’r llyfryn yn rhan o gyfres o gyhoeddiadau blynyddol a fydd yn rhoi sylw i’r digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru, neu fannau eraill os ydynt yn berthnasol i Gymru, er mwyn nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae hefyd yn cynnwys erthyglau manwl ynghylch gwahanol ddigwyddiadau a phrosiectau perthnasol.
- Cyhoeddiad Terfynol Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914–1918
- Rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914–1918 2018
- Rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914–1918 2017
- Rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914–1918 2016
- Rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914–1918 2015
- Rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914–1918 2014
Pam bod coffáu’r rhyfel yn bwysig?
Bu farw dros 15 miliwn o bobl yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a dioddefodd 20 miliwn ychwanegol anafiadau a amharodd mewn rhai achosion ar weddill eu bywydau. Prin oedd y teuluoedd yng Nghymru na welsant berthynas yn cael ei glwyfo neu ei ladd yn y rhyfel.
Roedd y rhyfel yn drychineb annisgwyl a ddilynodd gyfnod o gystadleuaeth a drwgdybiaeth rhwng y cenhedloedd. Canlyniad mwyaf ingol y rhyfel oedd y marwolaethau, ond fe gafodd y gyflafan effeithiau eraill, pellgyrhaeddol. Wrth i ymerodraethau mawr gwympo yn Ewrop ac i rym economaidd America gryfhau newidiwyd cydbwysedd grym y byd. Ym Mhrydain, hefyd, bu newidiadau gwleidyddol sylweddol, a daeth wladwriaeth i gymryd rhan amlycach ym mywydau unigolion.
Ar ddiwedd y brwydro gadawyd y gwledydd a fu’n ymladd yn dlawd, a phobl yr Almaen yn agos at newynu. Roedd Prydain ar fin bod yn fethdalwr ac wedi’r rhyfel ni lwyddodd i adennill yr hunanhyder a welwyd cyn hynny. Mewn rhai gwledydd daeth mudiadau gwleidyddol eithafol i rym ac ymhen prin ugain mlynedd dechreuodd Rhyfel Byd arall.
Dechreuodd y Rhyfel Mawr fel rhyfel rhanbarthol ond ymledodd nes bod bron pob gwlad yn Ewrop a nifer o wledydd eraill dros y byd yn rhan o’r ymladd, o gyfandir America i’r Dwyrain Pell.
Oherwydd i’r ymladd ddigwydd ar raddfa mor enfawr a bod y canlyniadau mor sylfweddol, mae’n hanfodol bwysig i ni geisio deall achosion a dylanwad y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ystyried, yn ystod cyfnod y canmlwyddiant, yr aberth fawr a wnaed gan unigolion a chymunedau. Drwy astudio’r digwyddiadau hyn efallai y gallwn ddysgu sut i osgoi eu tebyg yn y dyfodol.
Coffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru: Cynllunio ar gyfer 2014-2018 - Adborth o'r tri digwyddiad a gynhaliwyd ym mis Ionawr a mis Chwefror 2013>
Ysgogodd Llywodraeth Cymru drafodaeth rhwng rhanddeiliaid ar y broses gynllunio ar gyfer coffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gynnar yn 2013. Y nod oedd cyrraedd cynifer o unigolion, grwpiau, cymunedau a sefydliadau â phosibl oedd â diddordeb mewn cymryd rhan yn eu digwyddiadau coffa eu hunain neu weithio mewn partneriaeth i ddatblygu gweithgareddau ar y cyd.
Cynhaliwyd tri digwyddiad cychwynnol yng Nghaerdydd ar 22 Ionawr 2013, yng Nghyffordd Llandudno ar 28 Ionawr 2013 ac yn Llanfair-ym-Muallt ar 15 Chwefror 2013. Roedd cyfanswm o dros 140 o bobl yn bresennol yn y tri digwyddiad o 75 o sefydliadau.