Gwych a Gwallgof
Gwych a Gwallgof: 50 o Ryfeddodau Natur Amgueddfeydd Cymru Mae amgueddfeydd ledled Cymru’n gartref i drysorau naturiol anhygoel. Mae’r casgliadau hyn yn ein helpu i ddeall y byd o’n cwmpas a’n lle ni ynddo. Maen nhw’n dangos ein heffaith ni ar fyd natur, a sut mae natur yn effeithio arnom ni. Gellir defnyddio sbesimenau amgueddfeydd i helpu i ateb cwestiynau pwysig mewn gwaith ymchwil modern. Dim ond cyfran fechan o’r 72,200 a mwy o sbesimenau mewn amgueddfeydd rhanbarthol yng Nghymru sydd i’w gweld yn yr arddangosfa hon. Ynghyd â’r rhai sydd yn Amgueddfa Cymru, dyma gasgliad hanes natur Cymru. Mae’n rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol a gwyddonol. Nod project Cysylltu Casgliadau oedd dysgu am y casgliadau hyn a rhannu gwybodaeth amdanynt â’r cyhoedd. Felly, bu arbenigwyr Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd yn gweithio gyda staff a gwirfoddolwyr i archwilio ac adnabod sbesimenau mewn 18 o amgueddfeydd ledled Cymru.
Bydd yr arddangosfa yma yn teithio i'r lleoliadau canlynol:
Amgueddfa Powysland (CS Powys) Hydref 2015 to Rhagfyr 2016
Amgueddfa Y Fenni (Sir Fynwy) Ionawr i Ebrill 2016
Amgueddfa ac Oriel Dinbych-y-pysgod. Mai 2016
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin (Sir Caerfyrddin). Mehefin i Fedi 2016
Amgueddfa Abertawe (CS Abertawe). Hydref i Ragfyr 2016
Amgueddfa Ceredigion (CS Ceredigion). Chwefror i Ebrill 2017
Amgueddfa Maenor Scolton (CS Penfro). Mai i Fehefin 2017
Amgueddfa ac Oriel Rhaeadr Gwy. Gorffennaf i Awst 2017
Oriel Ynys Môn (CS Môn). Medi i Ragfyr 2017
Amgueddfa Wrecsam (CBS Wrecsam).Ionawr i Fawrth 2018
Amgueddfa Cas-gwent (CS Mynwy). Mai i Orffennaf 2018
Amgueddfa ac Oriel Castell Cyfarthfa (CBS Merthyr) Awst i Fedi 2018
Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog (CS Powys). Dyddiadau i’w gadarnhau
Amgueddfa Llandudno. Dyddiadau i’w gadarnhau