Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Partneriaeth yw project Cysylltu Casgliadau Gwyddorau Naturiol Cymru. Caiff ei ariannu gan Gronfa Gasgliadau Esmée Fairbairn sy'n rhan o Gymdeithas yr Amgueddfeydd, a'i arwain gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru. Rhannodd curaduron Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd eu gwybodaeth arbenigol â staff a gwirfoddolwyr o 18 o amgueddfeydd ledled Cymru. Helpodd Casgliad y Werin Cymru i rannu'r casgliadau ar-lein. Cafwyd hyfforddiant dan nawdd Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru. Cyfrannodd myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd a llawer o wirfoddolwyr eraill at y gwaith. Pa amgueddfeydd eraill ledled Cymru sydd wedi rhannu eu casgliadau yn rhan o'r project:Bydd yr arddangosfa yn teithio i:Amgueddfa Powysland (CS Powys) Hydref 2015 to Rhagfyr 2016Amgueddfa Y Fenni (Sir Fynwy) Ionawr i Ebrill 2016Amgueddfa ac Oriel Dinbych-y-pysgod. Mai 2016Amgueddfa Sir Gaerfyrddin (Sir Caerfyrddin). Mehefin i Fedi 2016Amgueddfa Abertawe (CS Abertawe). Hydref i Ragfyr 2016Amgueddfa Ceredigion (CS Ceredigion). Chwefror i Ebrill 2017Amgueddfa Maenor Scolton (CS Penfro). Mai i Fehefin 2017Amgueddfa ac Oriel Rhaeadr Gwy. Gorffennaf i Awst 2017Oriel Ynys Môn (CS Môn). Medi i Ragfyr 2017Amgueddfa Wrecsam (CBS Wrecsam).Ionawr i Fawrth 2018Amgueddfa Cas-gwent (CS Mynwy). Mai i Orffennaf 2018Amgueddfa ac Oriel Castell Cyfarthfa (CBS Merthyr) Awst i Fedi 2018Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog (CS Powys). Dyddiadau i'w gadarnhauAmgueddfa Llandudno. Dyddiadau i'w gadarnhau

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw