Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

WREMA.86.247.50.9 - Mae cwrelau crychlyd wedi marw allan erbyn hyn. Mae'r enghraifft hon dros 300 miliwn o flynyddoedd oed. Mae'r rhan fwyaf o gwrelau heddiw'n byw mewn cytrefi, neu greigresi, ond roedd rhai cwrelau crychlyd yn fawr ac yn byw ar eu pennau eu hunain. Mae'r siâp corn unigryw yma'n gyffredin iawn. Roedd gwaelod y cwrel wedi'i angori ar wely'r môr, gyda'r polyp neu'r môr-gudyn byw yn y pant ar y top. Roedd yn bwydo trwy ddefnyddio'i deimlyddion i hidlo gronynnau o ddŵr y môr.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw