Penry Williams - Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa
Dyma gasgliad o baentiadau Penry Williams a gedwir yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful. ‘Roedd Penry Williams yn frodor o Ferthyr Tudful. Datblygodd ei yrfa gelfyddydol trwy nawdd William Crawshay, Castell Cyfarthfa. Yn ddyn ifanc astudiodd yn yr Academi Frenhinol, Llundain, o dan Syr Thomas Lawrence. Ymhen ychydig flynyddoedd daeth yn artist medrus ac yn sosialwr soffistigedig. Yn 1826 aeth i’r Eidal am y tro cyntaf, a buan iawn y sefydlodd ei hun fel arlunydd Rhufeinig Prydeinig.’ (Derrick Pritchard Webley, Cast to the Winds: the life and work of Penry Williams (1802-1885), Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1997)