arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Disgrifiad

Peintiwyd y darlun hwn, o'r enw 'Terfysgoedd Merthyr', gan Penry Williams, pan oedd ond yn 14 mlwydd oed.

Yn ystod cyfnod y streic roedd y berthynas rhwng y meistri haearn a'r gweithwyr yn wael iawn. Roedd y diwrnod gwaith yn galed ac yn hir ac roedd y gweithfeydd yn boeth a pheryglus. Roedd y cyflogau hefyd wedi'u gostwng. Gyrrwyd y gweithwyr i gymryd camau eithafol gan fod ganddynt deuluoedd i'w bwydo a hwythau heb arian yn eu pocedi.

Dechreuodd y streic ym 1816 yng ngweithfeydd haearn Tredegar wrth i grwpiau o ddynion orymdeithio tuag at Ferthyr gan aros ym mhob ffwrnais ar y ffordd. Wrth i'r terfysgwyr ddynesu at Dowlais, daethant wyneb yn wyneb â heddweision rhan-amser, taniwyd ergydion ac anafwyd Mary Morgan, gwraig y peiriannwr yng ngweithfeydd haearn Penydarren. Roedd y dorf yn gynddeiriog a bu'n rhaid i'r heddweision ffoi gan adael y terfysgwyr i fynd yn eu blaen i feddiannu'r gweithfeydd haearn lle'r oeddynt yn gweithio.

Roedd hwn yn gyfnod pryderus i'r meistri haearn. Cododd John Guest, perchennog Gweithfeydd Dowlais, fericêd i'w hun yn ei dŷ, tra ffodd William Crawshay II, perchennog Gweithfeydd Haearn Cyfarthfa, i'r mynyddoedd gan guddio mewn ffermdy. Yn y diwedd, daethpwyd â milwyr i fewn i ddarostwng y terfysgoedd. Cytunodd y meistri haearn i beidio â lleihau'r cyflogau ymhellach, llwyddwyd i adfer yr heddwch, ac roedd y cyflogwyr yn fwy gofalus wedi hynny wrth gyflwyno toriadau cyflog.

Daeth y peintiad hwn â Penry Williams i sylw William Crawshay, sef y diwydiannwr mawr cyntaf i noddi'r arlunydd ifanc. Aeth Williams yn ei flaen i beintio cyfres o luniau dyfrlliw sy'n darlunio gweithfeydd haearn Cyfarthfa ynghyd â chartref newydd Crawshay, Castell Cyfarthfa.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw