arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Aberystwyth: siopa yn yr 1920 a'r 2020au

Yn yr 1920au roedd gan Aberystwyth nifer o siopau bach annibynnol - ychydig iawn o'r siopau cadwyn rydyn ni'n gyfarwydd â nhw heddiw oedd yn bodoli. Roedd y siopau lleol hyn yn hanfodol fel cyflenwyr bwydydd cadw, esgidiau, dillad a hanfodion sylfaenol eraill megis canhwyllau, matsys a llestri. Mae rhai o'r gwerthwyr yma wedi diflannu bron yn llwyr, fel y seiri olwynion, gwerthwyr glo, gwerthwyr cynnyrch llaeth a gwneuthurwyr cyfrwyau a harneisiau. Mae'n bosib adnabod eraill, ond nid eu dulliau manwerthu, o bosib. Er enghraifft, rydym yn prynu dillad wedi eu gwneud yn barod heddiw, ond yn y gorffennol, roedd hi'n fwy cyffredin i bobl gyflogi teiliwr neu winiadwraig i greu dillad iddynt eu hunain. Fyddai neb heddiw yn breuddwydio am ofyn i rywun mewn siop esgidiau greu pâr o esgidiau yn benodol ar gyfer maint eu traed, ond ar ddechrau'r 20fed ganrif roedd siopau oedd yn cadw ystod o wahanol feintiau o'r un esgid yn dal i fod yn weddol brin gan fod y dull hwn o fanwerthu yn arloesol yn ei ddydd. Mae'r casgliad hwn o ffotograffau yn dangos y siopau hynny yn Aberystwyth y cyfeirir atynt yn y canllawiau i Dwristiaid y dref sy'n dyddio yn ôl i'r 1900au a'r 1920au a bryd hynny, roedd y siopau yn cynnwys bragwyr a chynhyrchwyr dŵr mwynol, dyddiaduron, hetiau, arbenigwyr mewn cynhyrchu dilladau megis blowsys, a phianos, a warws cerddoriaeth. Tybed allwch chi adnabod pa siopau oedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn ôl geiriad eu hysbysebion a'r testun. Rydym wedi cynnwys peth o'r testun yn ein disgrifiadau.

Mae 32 eitem yn y casgliad

  • 214
  • mewngofnodi
  • 184
  • mewngofnodi
  • 170
  • mewngofnodi
  • 137
  • mewngofnodi
  • 148
  • mewngofnodi
  • 164
  • mewngofnodi
  • 157
  • mewngofnodi
  • 175
  • mewngofnodi
  • 176
  • mewngofnodi
  • 193
  • mewngofnodi
  • 208
  • mewngofnodi
  • 199
  • mewngofnodi
  • 212
  • mewngofnodi
  • 221
  • mewngofnodi
  • 199
  • mewngofnodi
  • 201
  • mewngofnodi
  • 166
  • mewngofnodi
  • 184
  • mewngofnodi
  • 186
  • mewngofnodi
  • 183
  • mewngofnodi
  • 175
  • mewngofnodi
  • 185
  • mewngofnodi
  • 173
  • mewngofnodi
  • 132
  • mewngofnodi
  • 149
  • mewngofnodi
  • 168
  • mewngofnodi
  • 137
  • mewngofnodi
  • 196
  • mewngofnodi
  • 205
  • mewngofnodi
  • 191
  • mewngofnodi
  • 224
  • mewngofnodi
  • 331
  • mewngofnodi

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw