Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r 'Borough Guide', a gyhoeddwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows, yn cynnwys hysbyseb gan Morgan a'i Gwmni yn stryd Y Porth Bach sy'n nodi mai J Downie oedd y lle yn ddiweddar. Roedd y cwmni yn cadw nwyddau rhwymdoll ac yn masnachu gwinoedd a gwirodydd. Roeddent yn arbenigo mewn chwisgi gorau Glenlivert (9 mlwydd oed), yn costio 3/6 y botel. Roeddent hefyd yn hysbysebu Cwrw Golau Worthington am 2/6 y dwsin; Cwrw Du Rhagorol Guinness am 2/6 y dwsin; cwrw golau Cwmni City Brewery am 2/- y dwsin. Mae'r hysbyseb sydd yn y llyfryn mwy diweddar - 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir' a gyhoeddwyd yn 1924 yn nodi mai yn 1810 y sefydlwyd y cwmni (gellir gweld y dyddiad hyd y dydd heddiw o dan y bondo) a'i fod yn un o'r sefydliadau hynaf yn Aberystwyth. Roedd y cwmni'n cyflenwi cwrw casgen, cwrw potel, cwrw du a seidr, gwinoedd a gwirodydd, gwin Port Cockburn a sieri Martinez yn ogystal â dŵr mwynol Schweppes ac Ellis. Rhif ffôn y swyddfa a'r seler oedd 2.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw