Casgliad #AtgofGen
Crewyd y casgliad hwn fel rhan o ymgyrch Bro360 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol AmGen 2020. Dyma gipolwg ar eisteddfodau'r gorffennol gydag atgofion am gystadleuwyr a stondinwyr, beirdd a mascots, seremonïau a gigs. Daw'r ffotograffau a welir yma o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru - National Museum Wales, yr Eisteddfod Genedlaethol a llu o eisteddfodwyr.