Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.
Disgrifiad
Mae angen eich cymorth chi!A ydych yn rhan o un o’r lluniau? A ydych yn nabod rhai o’r bobl yn y lluniau? A ydych yn nabod y cystadlaethau? Pwy enillodd? Pa hwyl cafodd y cystadleuwyr yn y lluniau?Os ‘ydw’ yw’ eich ateb i unrhyw un o’r cwestiynau yma pam na cymerwch y cyfle i rannu eich atgofion yn y sylwadau o dan y delweddau? Ni’n edrych ymlaen at glywed wrthoch chi bobl Cymru! Wrth baratoi negyddion Geoff Charles ar gyfer ei digido fel rhan o brosiect European Libraries [http://www.llgc.org.uk/index.php?id=5728&L=1] fe ddaeth staff yn y Llyfrgell Genedlaethol ar draws set o oddeutu 500 o ffotograffau o Eisteddfod Genedlaethol 1972 yn Hwlffordd. Doedden nhw heb weld golau dydd ers 40 mlynedd ac maent wedi rhyddhau tua ugain o'r lluniau ar wefan Casgliad y Werin, ac yn gofyn am eich help chi i'w adnabod.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw