Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae angen eich cymorth chi!A ydych yn rhan o un o’r lluniau? A ydych yn nabod rhai o’r bobl yn y lluniau? A ydych yn nabod y cystadlaethau? Pwy enillodd? Pa hwyl cafodd y cystadleuwyr yn y lluniau?Os ‘ydw’ yw’ eich ateb i unrhyw un o’r cwestiynau yma pam na cymerwch y cyfle i rannu eich atgofion yn y sylwadau o dan y delweddau? Ni’n edrych ymlaen at glywed wrthoch chi bobl Cymru! Wrth baratoi negyddion Geoff Charles ar gyfer ei digido fel rhan o brosiect European Libraries [http://www.llgc.org.uk/index.php?id=5728&L=1] fe ddaeth staff yn y Llyfrgell Genedlaethol ar draws set o oddeutu 500 o ffotograffau o Eisteddfod Genedlaethol 1972 yn Hwlffordd. Doedden nhw heb weld golau dydd ers 40 mlynedd ac maent wedi rhyddhau tua ugain o'r lluniau ar wefan Casgliad y Werin, ac yn gofyn am eich help chi i'w adnabod.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (4)

Anonymous's profile picture
Fi (Huw Williams)oedd yn eistedd ar y llawr ar ochor chwith y llun.Doeddwn heb weld y llun hwn o'r blaen.Yn sefyll Alun Sbardun Hughes,Elinor Roberts,Meic Povey,Mei Jones,
Anonymous's profile picture
O'r pump sy'n sefyll, Sbardun Huws, ?, Meic Povey, Mei Jones,? Y dde eithaf yn y cefn Arfon Jones, Moniars.
Anonymous's profile picture
Roeddwn yn aelod o fand oedd yn chwarae yn y digwyddiad. Rwyf yn y llun, gyda Meic Povey, Mei Jones, Emyr Huws Jones, A Stan Morgan Jones. Alun Sbardun Huws
Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales's profile picture
Gwych! Diolch am eich sylwadau, gobeithio fod y llun yn dod nôl ag atgofion o'r Eisteddfod i chi - oedd hi'n gig dda? Diolch am gyfrannu.

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw