14 o gardiau post o'r Rhyfel Byd Cyntaf a anfonwyd o Wlad Belg a Ffrainc gan Harry White
Cafodd y casgliad hwn o 14 o gardiau post eu hanfon rhwng 1915 ac 1916 gan Harry White i'w chwiorydd, Lillie White a Lucy Jenkins (née White), yng Nghaerfyrddin. Mae nifer o'r cardiau post yn dangos y dinistr mewn trefi a phentrefi yn cynnwys Ypres a Vermelles. Mae eraill yn dangos golygfeydd mwyn 'normal' megis y farchnad yn Béthune, y casino yn Mers-les-Bains a'r ‘prom’ yn Le Treport.