Cofebau’r Rhyfel Byd Cyntaf a Gomisiynwyd gan Gymunedau Cymreig sy’n Coffáu’r Rheiny a Fu’n Gwasanaethu ac a Fu Farw ar y Môr

Mae miloedd o gofebau i’r Rhyfel Byd Cyntaf ar hyd a lled Cymru ac mae llawer ohonynt yn coffáu pobl a laddwyd ar y môr. Yn ogystal â chofebau dinesig mewn lleoedd cyhoeddus yng nghanol trefi, neu ger y lôn mewn pentrefi, ceir amrywiaeth o gofebau a grëwyd gan gymunedau penodol i anrhydeddu a chofio eu pobl eu hunain. Cafodd llawer o’r rhain eu comisiynu a’u dadorchuddio o fewn blwyddyn i’r Cadoediad – fel rheol cyn i’r pwyllgorau ar gyfer cofebau dinesig mwy o faint benderfynu sut i symud ymlaen – felly maen nhw’n cynrychioli teimladau’r cymunedau unigol am y rhyfel yn syth wedi’r gyflafan. Hefyd, gan fod y cofebau hyn yn gyfan gwbl o dan eu rheolaeth, a neb yn dweud wrthynt beth i’w wneud na sut i’w wneud, maen nhw’n amrywiol iawn o ran eu negeseuon a’u dyluniadau. Ceir ar rai cofebau ddelweddaeth forwrol a all beri syndod i’r sylwedydd cyfoes. Mae nifer o gofebau mewn capeli yn dangos llongau rhyfel â mwg yn llifo o’u cyrn – mae gan rai negeseuon cymysg, gyda delweddau o longau rhyfel ochr yn ochr â delwedd o’r capel. O ran enwau llongwyr, mae llawer mwy i’w cael ar gofebau mewn trefi arfordirol, fel y gellid disgwyl, ac mewn rhai lleoedd â thraddodiad morwrol cryf mae’r mwyafrif o’r enwau ar y cofebau’n coffáu pobl a fu farw ar y môr. Mae’r rheiny a laddwyd wrth wasanaethu yn y llynges fasnachol yn cael eu cofnodi yr un fath â morwyr y Llynges Frenhinol. Ceir hefyd gofebau sy’n coffáu menywod a laddwyd ar y môr yn ystod y rhyfel, fel yr un i aelodau Capel Hyfrydle, Caergybi (mae’n enwi Hannah Owen, stiwardes ar yr RMS LEINSTER).

Cyfrannwyd i'r Prosiect Llongau-U 1914-18 gan Dr Gethin Matthews, Prifysgol Abertawe.

Mae 17 eitem yn y casgliad

  • 484
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 516
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 520
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 427
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 508
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 425
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 559
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 500
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 762
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 735
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 404
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 559
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 689
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 497
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 570
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 519
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 608
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi