Neges Heddwch ac Ewyllys Da - Ymatebion gan y Byd i Gymru
Arferai Neges Heddwch ac Ewyllys Da plant a phobl ifanc - sydd wedi cael ei darlledu'n flynyddol ers 1922 - dderbyn ymatebion gan bobl led-led y byd. Yn 2017 fe wnaeth criw o wirfoddolwyr o Gymru ac yn rhyngwladol weithio gyda UNA Exchange, yr Urdd, Cymru Dros Heddwch a Chasgliad y Werin Cymru i ddigido detholiad o'r ymatebion hyn: yr 'atebion' i genedlaethau ifanc Cymru oedd yn chwilio am bartneriaid i lunio byd gwell.