Plant Sir Benfro a’r Rhyfel yn erbyn y Llongau-U

I bobl gyffredin Sir Benfro, y plant yn eu plith, mae’n debyg mai ymosodiadau’r llongau-U ym Môr Iwerddon a Sianel San Siôr oedd eu profiad mwyaf uniongyrchol ac erchyll o’r rhyfel. Drwy gydol y rhyfel ildiodd y moroedd gynhaeaf trasig o longwyr a laddwyd gan longau tanfor a gweddillion llwythi’r llongau a suddwyd. Darganfu plant Ysgol Bosherston danc olew ar y traeth yn Broad Haven a oedd wedi cael ei ollwng gan long danfor Almaenig. Yn llyfr log yr ysgol ar gyfer 4 Mehefin 1915 mae cofnod i’r ysgol ddefnyddio’r tanc fel gwrthrych ar gyfer dysgu braslunio a mathemateg. Yn llyfr log Ysgol Stagbwll, cofnodir ym mis Tachwedd 1916 i’r plant gael eu hanfon i Draeth Barafundle i gasglu glo a oedd wedi golchi i’r lan ar ôl i long gael ei suddo. Gwelodd plant ysgol Martletwy awyren am y tro cyntaf ar 31 Mai 1916, ac ar draws y sir byddai plant yn gweld awyrlongau Prydeinig yn sleifio heibio’n ddistaw. Cymerodd plant ran hefyd yn yr ymgyrch i gynhyrchu mwy o fwyd er mwyn lleddfu’r prinderau a achoswyd gan ymgyrch y llongau-U yn erbyn llongau masnach.

Awgrymwyd y deyrnged hon gan Simon Hancock. In association with Amgueddfa Tref Hwlffordd.

Mae 4 eitem yn y casgliad

  • 610
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 551
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 922
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 584
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi