Y Busnes Llongau
Fel tref ddiwydiannol ar yr arfordir fe ddaeth Llanelli yn ganolbwynt lleol o bwys ar gyfer y busnes o gefnogi’r ymdrech ryfel. Ar ddechrau’r rhyfel, aeth y diwydiannau lleol sefydledig ati i gynhyrchu mwy, ond yn ddiweddarach byddent yn llwyr addasu ar gyfer gwaith rhyfel a chafodd sawl menter ddiwydiannol hollol newydd ei sefydlu. Hefyd, am gyfnod byr, gwelwyd gwellhad mewn amodau masnachu ar gyfer perchnogion a broceriaid llongau Llanelli, ond roedd y peryglon yn sylweddol hefyd. Roedd Prydain yn dibynnu ar y Llynges Fasnachol i’w chadw mewn busnes drwy fewnforio ac allforio bwyd, nwyddau diwydiannol, a deunyddiau at ddibenion milwrol, er gwaethaf bygythiad cynyddol y llongau-U.
Awgrymwyd y deyrnged hon gan Morrigan Mason & Elin Jones. Ar y cyd ag Amgueddfeydd Sir Gâr.