Nyrs Mary Jane Hughes
Cyn y rhyfel, roedd tua 30% o’r gweithlu yn fenywod a chyfyngedig iawn oedd y mathau o swyddi yr oeddynt yn eu gwneud. Newidiodd cyfleoedd gwaith i fenywod yn ddramatig yn ystod y rhyfel a byddai llawer ohonynt yn ennill mwy o gyflog ac yn mwynhau mwy o annibyniaeth. Roedd nyrs Mary Jane Hughes o Lanelli yn un o filoedd a fu’n gofalu am bobl sâl a chlwyfedig yn ystod y rhyfel. Ar ôl ymuno â Gwasanaeth Nyrsio’r Llu Tiriogaethol, bu’n gweithio mewn ysbyty milwrol ym Mryste a’r Aifft ac ar long ysbyty’r DUNLUCE CASTLE yng Nghefnfor India. Mae ei halbymau lluniau yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn gofnod cyfoethog o heriau ei gwaith a’r cyfleoedd a gafodd i deithio ac i wneud cyfeillion. Awgrymwyd y deyrnged hon gan Morrigan Mason & Elin Jones. Ar y cyd ag Amgueddfeydd Sir Gâr.