HMS LARK a’r Comander Rafe Grenville Rowley-Conwy

Cymerodd y Comander Rafe Grenville Rowley-Conwy, Neuadd Bodrhyddan, ac HMS LARK ran yn y frwydr gyntaf ar y môr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf – Brwydr Heligoland Bight ym Môr y Gogledd – ar 28 Awst 1914. Roedd y Comodoriaid Prydeinig Reginald Tyrwhitt a Roger Keyes wedi dyfeisio cynllun i ddal distrywlongau Almaenig wrth iddynt ddychwelyd i’r porthladd ar ôl patrôl nos. Roedd yr HMS LARK yn rhan o’r 3edd lyngesan Brydeinig a oedd yn cynnwys 16 o ddistrywlongau dosbarth-Laforey newydd dan reolaeth Tyrwhitt.

Dechreuodd y frwydr tua 7:00 y.b. pan welwyd llong dorpidos Almaenig, yr G194, a rhoddodd Tyrwhitt orchymyn i bedair o’i ddistrywlongau ymosod. Yn yr oriau a ddilynodd, byddai’r Almaen yn colli’r criwserau ysgafn MAINZ, KÖLN ac ARIADNE a’r ddistrywlong V-187. Cafodd tri chriwser ysgafn arall eu difrodi, lladdwyd 712 o longwyr Almaenig, anafwyd 530 a chymerwyd 336 yn garcharorion.

Cafodd un criwser ysgafn a thair distrywlong Brydeinig eu difrodi, lladdwyd 35 o longwyr ac anafwyd 40.

Awgrymwyd y deyrnged hon gan y Stiwardiaid Tŷ, Neuadd Bodrhyddan, Sir Ddinbych. Ar y cyd â’r teulu Rowley-Conwy.

Mae 5 eitem yn y casgliad

  • 542
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 528
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 700
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,083
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 605
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi