Abermo a’r Rhyfel ar y Môr
Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Abermo yn adnabyddus am ei phorthladd a oedd yn datblygu’n gyflym ac am ei ierdydd llongau prysur. Erbyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd llawer o ddiwydiant llongau Abermo wedi diflannu. Serch hynny, roedd y dref yn parhau i gynhyrchu llongwyr campus a ddefnyddiai eu medrusrwydd a’u hymroddiad i sicrhau na châi llinellau cyflenwi Prydain eu torri.
Awgrymwyd y deyrnged hon gan Les Darbyshire. Ar y cyd â Barmouth Sailors' Institute.