Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru / North East Wales Archives's profile picture

Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru / North East Wales Archives

Dyddiad ymuno: 15/03/22

Amdan

Bywgraffiad CY: 
Cafodd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru ei ffurfio ym mis Ebrill 2020 pan ddaeth Archifau Sir Ddinbych (Rhuthun) ac Archifau Sir y Fflint (Penarlâg) ynghyd i gynnig gwasanaeth ar y cyd. Rydym yn casglu cofnodion hanesyddol mewn perthynas â Gogledd Ddwyrain Cymru, ac yn eu cadw nhw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym hefyd yn annog y cyhoedd i ddod i’n hystafelloedd chwilio a defnyddio ein cofnodion. Rydym yn cadw ystod eang o gofnodion gwreiddiol, gan gynnwys cofrestrau bedyddio, claddu a phriodasau, papurau newydd, lluniau, mapiau, cofnodion llys, gweithredoedd, cyfeirlyfrau masnach a mwy. Mae ein cofnodion yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif i’r unfed ganrif ar hugain.