Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd Pier y Rhyl yn atyniad poblogaidd iawn i dwristiaid, gydag adloniant a charnifalau yn digwydd yn aml. Ym mis Gorffennaf 1894, ymwelodd Tywysog a Thywysoges Cymru â'r Rhyl a chael eu diddanu gan gyngerdd arbennig yn y Pafiliwn.

Disgrifiodd merch ysgol ei hymweliad â Phier y Rhyl ym 1899: ‘Llawer ac amrywiol yw’r golygfeydd a’r difyrion sy’n cyflwyno eu hunain i’r cannoedd o ymwelwyr pleserus â’r Rhyl yn yr haf.’

Roedd ei hoff atyniadau yn cynnwys y ‘Pierrots’, tafleiswyr, darllenwyr palmwydd, a ‘the Flying Lady’.

‘The Attractions of Rhyl’, Rhyl Journal, 26 Awst 1899.
Cyf: D/DM/49/1

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw