Regency Restoration Project National Botanical Garden of Wales / Prosiect adfer parcdir godidog Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru's profile picture

Regency Restoration Project National Botanical Garden of Wales / Prosiect adfer parcdir godidog Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Dyddiad ymuno: 08/05/19

Amdan

Bywgraffiad CY: 
Middleton: Adennill Paradwys – Adfer Ystad o Gyfnod y Rhaglywiaeth Mae grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a gyhoeddwyd ar y 1 o Fawrth 2017, yn ddarn olaf o’r jig-so ac yn arwydd cychwyn o’r cyfnod adeiladu o’r prosiect £7.2 miliwn i adfer y tirlun chwedlonol o un o barciau dŵr o gyfnod y Rhaglywiaeth gorau ym Mhrydain. Mae ein prosiect i adfer parcdir godidog bellach yn wirioneddol yn mynd yn ei blaen. Rhwng nawr a 2020 byddwn yn dychwelyd y dirwedd wych hon i’w ffurf flaenorol ar ddechrau’r 19eg ganrif. Pan cwblheir y cynllun, bydd yr Ardd unwaith eto yn cynnwys cadwyn o saith o lynnoedd, sgydau, rhaeadrau a choredau, fel y rhai a grëwyd mwy na 200 mlynedd yn ôl, a gallwn unwaith eto frolio’r cynllun plannu o gyfnod y Rhaglywiaeth a ffurfiodd galon y parcdir hwn. Bydd y prosiect yn adfywio’r tirwedd i ymwelwyr gael ei fwynhau, ac yn adrodd sut y cafodd Cwmni India’r Dwyrain ddylanwad am 250 o flynyddoedd ar y tirlun yn y rhan yma o Gymru. Dros y misoedd nesaf, byddwch yn gallu dilyn cynnydd y prosiect, neu hyd yn oed gymryd rhan fel gwirfoddolwr. Bydd llawer i’w wneud. Beth am gymryd rhan yn ein hymchwiliadau archeolegol ac arolygon bywyd gwyllt, ewch ar deithiau hetiau caled i weld y gwaith ar y safle neu beth am ddysgu’r sgiliau a oedd yn angenrheidiol, a fydd unwaith eto, i reoli’r dirwedd hon. Byddwch hefyd yn gallu mwynhau sgyrsiau a theithiau tywys, dig-wyddiadau hanes byw a llu o weithgareddau a digwyddiadau sy’n dathlu treftadaeth yr Ardd.
  • 322
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi