Disgrifiad

Y daith gyntaf o amgylch y safle wedi i'r gwaith adeiladu gychwyn eto yn dilyn seibiant dros y gaeaf. Gallwch weld Llyn Mawr gyda digonedd o ddŵr ynddo, er nad yn llawn eto, a'r argae gyda glaswellt newydd hyfryd yn tyfu, golygfa o'r llyn o'r llwyfan gwylio a gynlluniwyd, Llyn Felin Gat a'r cored, gwaith carreg o'r argae wreiddiol a'r cored a godwyd gan Paxton, y ffynnon naturiol yn Llyn Felin Gat, rheiliau'r parcdir a rhai o'n llwybrau newydd, a'r cylch perffaith ym Mhwll y Rhaeadr.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw