Deugain Llais, Deugain Mlynedd / Forty Voices, Forty Years
Dyddiad ymuno: 14/03/18
Amdan
Bywgraffiad CY:
Prosiect treftadaeth yw 40 Llais, 40 Mlynedd dan arweiniad Cymorth i Ferched Cymru mewn cydweithrediad â Chanolfan Adrodd Straeon George Ewart Evans ym Mhrifysgol De Cymru.
Caiff atgofion, lleisiau a bywydau menywod yn aml eu hanghofio yn ein treftadaeth genedlaethol, felly nod y prosiect hwn yw cofnodi’r hanes cudd hwn, gan ddathlu ein deugain mlwyddiant a choffáu gwaith mudiad Cymorth i Ferched yng Nghymru. Bydd yn gwneud hyn gyda chasgliad o hanesion llafar, straeon digidol, arddangosfa a deunydd archif gan fenywod a gwasanaethau.
Bydd y prosiect nid yn unig yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o’r mudiad trais yn erbyn menywod yng Nghymru, ond bydd hefyd yn gwella gwybodaeth y gymuned am drais yn erbyn menywod a’n gwaith i’w atal. Rydym ni hefyd yn awyddus i annog adfyfyrio ar ein blaenoriaethau fel mudiad ar gyfer y dyfodol wrth i ni weithio at ein nod cyffredin o ddileu trais yn erbyn menywod unwaith ac am byth.
“Credwn fod rhannu straeon yn ein galluogi i glywed lleisiau’r rheini sydd yn aml wedi’u hepgor o’r llyfrau hanes. Bydd y straeon a gesglir ym mhrosiect Deugain Llais, Deugain Mlynedd yn cynnig cyfle i ni fyfyrio ar bwy ydym ni, o ble rydym ni wedi dod a beth ydym ni am fod. Gall rhannu straeon greu cymuned a gwell dealltwriaeth o’n gilydd drwy wrando ar y straeon sy’n ein gwneud ni’n ni.”
Rydym ni’n ddiolchgar am gefnogaeth hael ein cyllidwyr sy’n caniatáu i’r prosiect hwn fynd rhagddo, gan gynnwys Cronfa Treftadaeth y Loteri, the Big Lottery Fund's National Lottery Awards for All a Hanfod Cymru.