Susan Leyshon. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Trwy ryw amryfusedd mae hanner cyntaf y recordiad hwn yn wag – mae’r cyfweliad yn dechrau ar
 
21. 25
 
Ei henw cyn priodi oedd Susan Davies. Ei dyddiad geni : 21:07:1950
 
Daw’n wreiddiol o Faesteg ac roedd ei thad yn cadw siop groser – yn llawn amser. Roedd ei mam yn cadw tŷ ac yn helpu yn y siop. Byddai Susan yn gweithio yn y siop bob dydd Sadwrn, ar ôl chwarae hoci dros yr ysgol yn y bore. Byddai hi’n delifro’r goods o’r siop. Yn ystod y gwyliau byddai’n gweithio yn y siop ambell ddiwrnod.
 
Cafodd ei haddysg gynradd yn Ysgol Llwynderw, rownd y cornel o’i chartref, yna ymlaen I Ysgol Ramadeg Maesteg yn Llangynwyd. Yna aeth ymlaen i astudio cwrs Ymarfer Corff yng Ngholeg y Barri ac ymlaen wedyn i gael swydd yng Nghaerdydd i ddysgu ymarfer corff yn Ysgol Llanedeyrn, lle roedd Colin Jackson yn ddisgybl!
 
Yn y gwyliau yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y Coleg, gan fod ffatri Revlon yn agos i’w chartref, ac roedd ei thad yn nabod y fenyw oedd yn gyfrifol a gofynnodd e a oedd unrhyw swyddi yn mynd yno – er mwyn cael ychydig o arian – hi a rhai o’i ffrindiau. Dwedodd y fenyw oedd yn recriwtio wrtho am ei hanfon hi draw – tair ffrind wedi mynd gyda’i gilydd. Cawsant gyfweliad byr a gofyn iddynt ddechrau’r dydd Llun wedyn. Gwaith am dair wythnos oedd e.
 
Roedden nhw’n gwneud colur safonol iawn yn y ffatri – lipsticks, powdwr .. ‘popeth mae menyw yn gwisgo i neud ei hunan yn beautiful!’ Colur da iawn ond drud. Roedd hi’n nabod sawl un o’r menywod oedd yn gweithio yno ymlaen llaw o ran golwg i ddweud ‘helo’ yn y dref, gan eu bod yn dod i siop ei thad i siopa.
 
Roedd yr argraff y diwrnod cyntaf ‘oedd e’n sioc i’r system achos roedd yr iaith yn anweddus o beth on i wedi bod yn arfer ‘da, ond ‘na’r ffordd yn naturiol on nhw’n siarad â’i gilydd. On nhw ddim yn meddwl oedd e’n anghywir o gwbwl, oedde jyst y ffordd o’en nhw’n byw. So on i wedi cael sioc y cwpwl o funudau cynta ond ar ôl cwpwl o oriau on i wedi dod i arfer ‘da fe!’
 
24.45
 
Roedd tair ohonyn nhw wedi dechrau yno yr un pryd, dwy ar y llinell – Ann a hi a’r ffrind arall ar ford yn y cornel – ddim yn gwybod beth roedd hi’n ei wneud. Roedd hi hanner ffordd lawr y llinell ac roedd Ann lawr ar ei diwedd. Roedd yn rhaid iddi hi roi tops ar y nail varnish ac roedd Ann yn gorfod rhoi’r finished product mewn bocs. ‘So, on i’n meddwl bydd hwn yn snitch – mae hwn yn mynd i fod yn rhwydd’ – ron nhw wedi cael ymarfer bach i ddechrau ac ‘Off â ni. Wel! On nhw’n dod lawr y llinell – a oen i’n meddwl “Yffarn!” “Os ti’n ffaelu cal nhw i gyd rho nhw’n dy lap”. Wel mewn pum munud oedd lap fi’n llawn! On i’n chwysu stecs, on i’n coch,. Odd Ann lan y diwedd yn sefyll ar bwys y bocsys – odd hi’n ffaelu llenwi nhw yn ddigon cloi a oedd y supervisor jyst yn shout “Bloody ‘ell, stop! These students are useless!’ Roedd yn rhaid iddi sortio nhw mas ac roedd hi wedi cymryd cwpwl o oriau iddyn nhw ddod i arfer gweithio mor gloi â’r merched eraill. Ar ddiwedd y dydd roedden nhw wedi gwella ac roedden nhw yn gallu cyrraedd y targed ond ‘roedd yr awr yna tan yr egwyl cyntaf yn uffern iddyn nhw i gyd ac iddyn nhw a bod yn deg. Roedd rhaid iddyn nhw roi lan ‘da ni, achos on ni’n stopo nhw.’ Roedd ganddyn nhw darged yr oedd yn rhaid iddyn nhw ei gyrraedd – bob dydd – ‘On ni’n dal nhw lan. So oedd y supervisor yn mynd yn wyllt ‘da ni – gal ni’n bopeth ar y dechrau, but on i’n gallu gweld achos maen nhw’n mynd i dioddef os on ni ddim yn neud jobs ni yn iawn.’ Cred y byddent yn colli arian petaen nhw ymhell o’r targed.
 
Aethon nhw i weithio yn y ffatri achos roedd llawer o’r staff yn cael pythefnos o wyliau yng Ngorffennaf – gyda’u teuluoedd ac felly roedd yn rhaid cael rhai myfyrwyr i mewn i lenwi’r bwlch. Felly roedd y myfyrwyr yn gweithio tair wythnos – yr wythnos gyntaf roedd y gweithwyr i gyd yna ac felly gallen nhw ymarfer cyn i lot ohonyn nhw fynd ar wyliau am yr ail a’r drydedd wythnos. Doedd pawb ddim yn mynd ar wyliau – roedd digon yno i gadw’r llinellau yn mynd. Efallai y byddai un neu ddwy linell ar gau. Trefn y cymoedd – cael pythefnos o wyliau yr un pryd.
 
Cred bod y rhan fwyaf o’r merched yn lleol – dyna’r swyddi oedd yn yr ardal – dim ond Louis Edwards a Revlon – dim llawer o ddim byd arall. Roedd nifer o’r pyllau glo wedi cau erbyn hyn, felly ‘roedd hi’n angenrheidiol i’r menywod gweithio.’ Menywod oedd yn y gwaith yn bennaf – roedd rhan fwyaf y dynion yn y stordy – dim menywod yno. Menywod oedd ar y llinellau – 98%.
 
Bu Susan am gyfnod yn gwneud gwaith arall yn y ffatri – roedd ysgrifenyddes y bos i ffwrdd yn dost a daeth y bos i lawr i mewn a gofyn ‘Unrhyw un yn gallu teipio?’ Atebodd ei ffrind fod Susan yn gallu teipio a’i bod yn gwneud cwrs shorthand and typing! Doedd hi heb fod yn gwneud hyn yn hir ond bu’n y swyddfa am dri diwrnod yn helpu teipio’r llythyron i gyd! ‘Oedd e’n mess i ddechrau ond erbyn – ar ôl awr … on i wedi mynd i mewn i batrwm …’ Dim ond tair ysgrifenyddes oedd yn y swyddfa – un yn teipio ac un yn ffeilio (a hi).
 
29.25
 
Pan oedd y myfyrwyr yn dod i mewn i’r gwaith roedd y dynion yn meddwl eu bod yn gallu tynnu’u coesau ‘ac wrth gwrs oedd y menywod arall – on nhw ddim yn lico nhw’n jocan ‘da ni achos on nhw’n lico cael banter ‘da nhw. ‘Na beth oedd rhan o’u bywyd nhw - cadw nhw i fynd.’ Bydden nhw’n sôn am ble oedden nhw wedi bod ar y nos Sadwrn – y Working Man’s Club lleol, neu y Celtic Club. Nid yw Susan yn cofio unrhyw glybiau tu fewn i’r ffatri – yn gymdeithasol nag ar gyfer chwaraeon. ‘Ond on nhw yn cymdeithasu tu fâs.’
 
Dechrau yn y bore tua chwarter i wyth a gorffen tua chwarter neu hanner awr wedi pump. Roedd e’n ddiwrnod eitha hir – ddim fel yr ysgol neu’r coleg! Roedden nhw’n gweithio drwy’r amser ond gyda deg munud o egwyl, trichwarter awr am ginio a deg munud o egwyl yn y prynhawn. Gweddill yr amser ‘ti ar y llinell yn neud y job. So oedd e’n job eitha boring.’ Roedd yn waith caled ac roedd yn rhaid canolbwyntio, ond ‘roedd y rhai oedd yna’n arferol roedden nhw’n gallu ymlacio fwy na nhw’n gallu, achos on nhw wedi neud e am flynyddoedd a oedd e’n second nature iddyn nhw.’ Roedden nhw’n siarad wrth weithio ond nid oedd wedi clywed canu. Roedd y dynion yn y stordy’n canu weithiau. Ond y merched jyst yn gweiddi ar draws y llinell a sgwrsio am bopeth o dan yr haul! Felly roedd hi’n swnllyd yna gyda’r peiriannau yn mynd a’r gweiddi. Weithiau byddai cerddoriaeth tra’u bod nhw’n gweithio ond nid drwy’r amser. ‘Fi ddim yn credu odd ots os oedd e arno neu ddim, oedd pobol ddim yn cymryd unrhyw sylw …’ Roedd yn rhaid cloco mewn a cloco mas ar ddiwedd y dydd. Os oet ti’n hwyr yn dod mewn roedden nhw’n doco’r pae. Roedd caffe bach ar gyfer cinio, - diodydd, brechdanau a thoiledau.
 
Roedd y toiledau yn cael eu cadw’n lân ac roedd pawb yn mynd yna i gael smôc, neu tu fâs. Roedd y toiledau yn lle i gwrdd i siarad a ‘i beirniadu’r myfyrwyr!’ (darn o sgwrsio)
 
33.00
 
I weithio roedd yn rhaid cael overalls ac wrth gwrs gan mai nhw’r myfyrwyr oedd wedi dod i mewn olaf – nhw oedd ‘yn cael y dregs – ron nhw’n edrych yn hyll’ Ron nhw’n gwisgo rhywbeth ar eu pennau i gadw’u gwallt i mewn. Gwyrdd neu gwyn oedd yr overalls – roedd rhaid eu gwisgo o ran diogelwch. Wrth gwrs roedd rhai nail varnishes yn tipio ar y dillad weithiau hefyd. Roedd y gweithwyr go iawn yn cadw’u overalls a mynd â nhw gartre i’w golchi, ond gyda’r myfyrwyr roedden nhw’n eu rhoi nhw ac roedden nhw’n eu tynnu i ffwrdd ar ddiwedd y dydd a mynd â nhw gartre i’w golchi ond ddim yn eu gwsigo y tu allan i’r ffatri.
 
(sgwrs anffurfiol)
 
Bu Susan yn gweithio yn y ffatri am ddau haf ac yn gwneud mwy neu lai yr un gwaith y ddau dro. Mae’n amlwg mai dyma’r jobs oedd yn rhwyddach i fyfyrwyr eu dysgu yn gloi. Ar y nail varnish tops y bu hi felly, heblaw am gyfnod lle bu’n rhoi pecyn at ei gilydd – pecyn anrheg yn cynnwys powdwr, lipstick a.y.y.b. Roedd gweithwyr y ffatri yn gallu mynd i’r siop yn y ffatri lle roedd y nwyddau yn sylweddol rhatach – seconds ond efallai y top wedi cracio, pethau bach oedd yn bod arnyn nhw. Roedd y rhain yn cael eu gwerthu yn rhesymol iawn. Ond doedd pobl o’r tu fas ddim yn cael dod i mewn i’r siop – roedden nhw’n cael mynd I’r siop pan oedden nhw’n gweithio fel myfyrwyr yno. Ond byddai rhai o’r gweithwyr yn casglu archebion gan bobl lleol – efallai eu bod yn gwneud ychydig o arian ar yr archebion ‘ond oedd pawb yn hapus a pawb yn cael bargen – colur da am bris rhesymol. .. Pryd es i i’r coleg oedd llwyth o colur ‘da fi yn mynd o Revlon a’i ffrindiau i gyd yn dweud “Blinking ‘eck! Sut ti’n gallu fforddio hwnna ‘te?”’ Roedd yn byw yn y lle iawn i’w gael e!
 
Roedd menywod y ffatri yn siarad trwy’r amser i dorri ar undonedd y gwaith. Doedden nhw ddim yn cael y job yn anodd i’w gwneud a siarad yr un pryd. ‘Roedden nhw’n competent yn beth oen nhw’n neud’. Roedd supervisor ar bob llinell a hi oedd yn cadw tabs i wneud yn siwr eu bod yn cyrraedd y targed ar ddiwedd y dydd. Os nad oedden nhw’n llwyddo roedd yn rhaid cyflymu pethau ac os oedden nhw’n iawn roedd yn rhaid arafu lawr ‘achos pryd roedd y gloch yn canu … immediately – pawb mâs. Neb – maen nhw ddim yn gwneud un eiliad ar ôl amser pryd mae’r gloch yn canu … cerdded mâs. … Mewn pum munud mae’r ffatri yn wag.”
 
Doedd undebau ddim yn effeithio arnyn nhw (y myfyrwyr ) o gwbl. O safbwynt perygl – roedd y llinellau yn symud drwy’r amser ac roedden nhw wedi cael eu rhybuddio i fod yn ofalus I beidio gadael dim byd ar y llinell oedd ddim i fod yno. Roedd peiriant yno ar y diwedd ond roedd wedi ei gau i ffwrdd ac yn stordy roedd peiriannau i symud pethau rownd ond y dynion oedd yn gyfrifol am y rhain. Roedd nyrs llawn amser yn y gwaith ac ystafell nyrs ac ati hi y byddai pobl yn mynd i gael plastar ar gwt, pen - tost dyma’r yn fwy na dim arall ‘Oh! ’ell of a headache’ – roedd hi’n swnllyd yna. Cael tabled ‘ond nôl ar y llinell oedd rhaid iddyn nhw ddod.’ Dim ysmygu wrth eu gwaith, dim ond yn y toiled a thu fâs. Dyw Susan ddim yn credu eu bod nhw i fod i smygu yn y tŷ bach ond ron nhw yn gwneud hynny.
 
Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod – dau haf yn y ffatri, aeth hi ddim yn ôl wedyn ‘Fi’n credu fi’n falch fi wedi neud e. Oedd e wedi rhoi perspectif gwahanol i faint mor galed on nhw yn gweithio a faint mor boring oedd gwaith maen nhw’n neud. Mae’n rhaid parchu nhw am sticio at y swyddi ‘na. Achos on i’n ffindio fe’n boring ofnadw but maen nhw’n neud eu gorau mas o fe, achos ‘na’r ffordd maen nhw’n bwydo’u teulu nhw a ‘na’r ffordd maen nhw’n byw a gallu mynd ar gwyliau. So oedd e’n profiad gwerth neud, but oedd e ddim i fi. ’
 
http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VSE063.2.pdf