Peintiadau gan J. C. Young sy'n cofnodi meini hirion Sir Benfro
53 o faeni wedi eu cofnodi'n fanwl
Crewyd y casgliad o beintiadau sy'n cofnodi meini hirion Sir Benfro gan yr arlunydd J. C. Young dros gyfnod o dair blynedd rhwng 1981 a 1984, gan ddefnyddio rhestr o safleoedd a gyhoeddwyd yn Pembrokeshire Historian ym 1966. Ymwelodd â phob un o'r 53 maen a'u cofnodi'n ofalus iawn yng nghyd-destun y dirwedd o'u hamgylch – menter lafurus, yn aml yn golygu oriau o chwilio a theithio i leoliadau anghysbell. Yn ogystal â chynhyrchu'r peintiadau, creodd Mrs Young nodiadau ar gyfer pob maen, yn cofnodi unrhyw hanes a llên gwerin a gasglwyd wrth wneud ymchwil mewn dogfennau a sgwrsio â'r tirfeddianwyr.
Blodau ac anifeiliaid
Mae pob peintiad gwreiddiol yn olew ar bord ac yn mesur 5” x 8”. Maen nhw'n dogfennu'r meini'u hunain, ac weithiau'n cynnwys manylion braf o flodau ac anifeiliaid yn ogystal â lleoliadau'r dirwedd sydd o'u hamgylch, yn aml mewn tywydd a golau dramatig. Mae'r peintiadau'n ffurfio casgliad swynol a deniadol o ddelweddau, ac maen nhw hefyd yn ddogfen ddarluniadol bwysig o fath arwyddocaol o safle nad oes gan CBHC lawer o gofnodion gweledol. Mae llygad yr arlunydd hefyd wedi dal manylion a chyd-destun na fyddai cofnod ffotograffig wedi medru gwneud.
Yn weladwy i'r cyhoedd
Gan fod y lluniau gwreiddiol yn cael eu harddangos a'u gwerthu o 5 Awst, 2011, mae Mrs Young, yn garedig iawn, wedi caniatáu i'r Cofnod Henebion Cenedlaethol gopïo'r peintiadau'n ddigidol ar gyfer eu harchif gyhoeddus. Mae gobaith y bydd y peintiadau'n cael eu gwerthu'n un casgliad cyfan, gan ei fod yn ddymunol iawn cynnal cyfanrwydd y math hwn o waith. Ond pe caiff y casgliad ei wasgaru, mae'r CBHC yn hapus i gadw set lawn rithwir o'r peintiadau o leiaf, a'u rhoi ar gael i'r cyhoedd.
http://www.rcahmw.gov.uk/HI/CYM/Treftadaeth+Cymru/Oriel/Peintiadau+Mein…
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment