Wig-wen-fach, Llanerchaeron, Ceredigion

Eitemau yn y stori hon:

Muriau o fwd, toeon gwellt, simneiau go fregus

 

Cyfeiriai teithwyr yn y ddeunawfed ganrif a’r ganrif ddilynol yn aml at gyflwr ffiaidd bythynnod a ffermdai bach Cymru, adeiladau a fyddai, yn fynych, â muriau o fwd, toeau gwellt, simneiau go fregus a thu mewn tywyll a brwnt. Ond mae modd gorliwio’r darlun hwnnw: yn aml, mae’r bythynnod sydd wedi goroesi (a detholiad ohonynt yn unig sydd wedi gwneud hynny, wrth gwrs) yn adeiladau cadarn a’u nodweddion wedi’u saernïo’n gelfydd.

Wig-wen-fachar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

 

Enghraifft brin o’r traddodiad adeiladu brodorol hwnnw yw bwthyn Wig-wen-fach ar ystâd Llanerchaeron, Sir Aberteifi. Tan yn ddiweddar, bu’n llety i weithwyr fferm yr ystâd ond yr oedd yn wag pan waddolwyd ef i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1989. Penderfyniad goleuedig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd cadw’r bwthyn fel y mae yn hytrach na’i foderneiddio a’i ddatblygu. Cyferbyniad difyr i ymwelwyr â’r ystâd yw’r un rhwng y plasty gwych a godwyd gan John Nash yn y G18fed ganrif a’r bwthyn ystâd unllawr o’r un cyfnod.

Adeiladu cynaladwy

Yn Wig-wen-fach cadwyd nodweddion crefft sydd wedi diflannu i raddau helaeth mewn mannau eraill. Mae cryn dipyn o glai yn y waliau. Ar y tu mewn, cadwyd y plastr gwreiddiol, fflagiau’r llawr, y paredau o fasgedwaith, mantell y lle tân, y nenffyrch sgarff a’r defnydd o dan y to. Tu mewn o ran gynnar y G19eg sydd i Wig-wen-fach. ‘Cartrefi o waith cartref’ oedd y bythynnod: yn aml, y bobl a’u codai a fyddai’n byw ynddynt, a defnyddient sgiliau’r crefftau traddodiadol at y gwaith. Fel y cyfryw, maent yn enghreifftiau cynnar o adeiladu cynaladwy sy’n cynnig gwersi i ni yn y G21ain.

Drwy’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn unig y ceir gwneud apwyntiad i ymweld â Wig-wen-fach.