Dihangfa fawr yr Almaenwyr

Eitemau yn y stori hon:

  • 2,297
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,526
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,164
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Hanes cyfarwydd?

Mae'n siŵr ein bod i gyd yn gyfarwydd â hanes ymgais milwyr y Cynghreiriaid i ddianc o wersyll carcharorion rhyfel yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r ffilm 'The Great Escape' yn seiliedig ar stori wir, ac wedi anfarwoli hanes y dynion a geisiodd dianc o Stalag Luft II yn Sagan. Wedi iddynt dreulio bron blwyddyn yn adeiladu tri thwnnel: Tom, Dick a Harry, dihangodd y dynion yn y pendraw drwy Harry. Ond o'r 78 a ddihangodd, cafodd 73 eu dal a dienyddiwyd hanner cant o'r rheini. Anfonwyd y lleill naill ai at wersylloedd carcharorion rhyfel eraill neu at wersylloedd crynhoi.

Efallai na fyddwch mor gyfarwydd â hanes y 73 swyddog o'r Almaen a lwyddodd i ddianc o Wersyll Carcharorion Rhyfel Island Farm ger Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Island Farm

Adeiladwyd Island Farm yn wreiddiol i gartrefu gweithwyr ffatri arfau Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd Ffatri Ordnans Brenhinol ym Mhen-y-bont yn cyflogi 40,000 o weithwyr yn ei hanterth, y ffatri fwyaf ym Mhrydain ar y pryd. Roedd y gweithwyr yn ferched yn bennaf ac yn dod o gyn belled â Sir Fynwy a Sir Gaerfyrddin. Adeiladodd yr awdurdodau 'bentref' o gytiau pren yn Island Farm i'r merched letya ynddynt, ond fe arhoson nhw'n wag gan fod yn well gan y merched deithio'n ôl ac ymlaen er mwyn iddynt fedru byw gartref.

Roedd y gwersyll yn wag tan 1943 pan ddefnyddiwyd ef i anheddu milwyr Americanaidd a fyddai'n cymryd rhan yng ngoresgyniad Ffrainc. Yn ystod y cyfnod hwn, mae sôn yr ymwelodd Eisenhower â'r gwersyll ac annerch y milwyr yn fuan cyn iddynt ymadael am Ffrainc.

Y flwyddyn ganlynol, dynodwyd y gwersyll yn wersyll carcharorion rhyfel: Gwersyll 198. Wrth i luoedd y Cynghreiriaid symud ymhellach i mewn i Ewrop, cipiwyd nifer mawr o filwyr y gelyn ac roedd dod o hyd i lety iddynt yn dod yn fwyfwy anodd. Roedd Island Farm yn lleoliad perffaith; barics parod mewn caeau agored. Y cyfan oedd angen ei wneud oedd addasu'r barics a chodi ffensys gwifren bigog, ac fe wnaed ychydig o'r gwaith hwn gan y carcharorion cyntaf. Roedd y gwersyll i ddal bron 2,000 o garcharorion ond penderfynodd y Swyddfa Ryfel fod yr amodau yno'n rhy gysurus i gartrefu milwyr cyffredin ac fe ddaeth Island Farm yn wersyll i swyddogion yr Almaen. Cyrhaeddodd y cyntaf ohonynt ym mis Tachwedd 1944.

Achosodd eu dyfodiad gynnwrf mawr yn nhref fach Pen-y-bont ar Ogwr, ac nid oedd gan yr awdurdodau obaith o'i gadw'n gyfrinach wrth i dyrfaoedd o bobl leol ymgasglu yn yr orsaf drenau.

Dianc

O'r cychwyn, roedd y bobl a oedd yn gyfrifol yn Island Farm yn gwybod yn iawn am y perygl y byddai'r carcharorion yn ceisio dianc ac am y peryglon y byddai dihangfa yn eu hachosi. Roedd pryderon am ddifrod i waith rhyfel angenrheidiol gan fod y gwersyll o fewn milltir i'r ffatri arfau a oedd yn cyflogi 39,000. Roedd y gwersyll hefyd ynghanol ardal ddiwydiannol de Cymru, a oedd mor bwysig i ymdrech y rhyfel.

Roedd eu pryderon yn gywir. Ym mis Ionawr 1945 daethpwyd o hyd i dwnnel ac er i gadlywydd y gwersyll sylweddoli mai twnnel dargyfeiriol ydoedd yn fwy na thebyg, ni fedrent ddod o hyd i'r llall. Dihangodd y swyddogion drwy'r twnnel arall, gyda'i fynedfa yn Nghwt 9, ym mis Mawrth 1945.

Ar 10 Mawrth, ymgasglodd y milwyr Almaenig yn y cwt i fynd drwy'r twnnel 60 troedfedd i ryddid. Pasiodd llif cyson o ddynion drwy'r twnnel ar hyd y nos, gan ddod allan mewn cae wedi'i aredig, ychydig y tu hwnt i derfyn y gwersyll. Nid oedd lleuad y noson honno a bu hynny'n gymorth i ddihangfa'r carcharorion ar y dechrau. Roedd un grŵp o bedwar yn gwybod am gar meddyg a oedd yn cael ei gadw ar ffordd gyfagos bob nos, ac wedi penderfynu ei ddwyn. Ond roedd y batri'n fflat ac fe gafodd y dynion drafferth i'w gychwyn. Wrth iddynt geisio cychwyn y car, daeth pedwar gard o'r gwersyll heibio ar eu ffordd o'r dafarn. Roeddent wedi cael gormod i'w yfed, ac nid oeddent yn deall wrth iddynt wthio a chychwyn y car, eu bod wedi cynorthwyo'r pedwar Almaenwr i ddianc!

Methiant

Tua 2.30 y bore, roedd y 66ain a'r 67ain dyn wedi gadael y twnnel ac yn cuddio yn y cae pan welwyd nhw. Saethwyd un gan y gardiaid, ac mae'n ymddangos y cwympodd un gard i mewn i'r twnnel. Achosodd hyn i'r ffoaduriaid oedd yn cuddio yn y coed chwerthin ac fe gawsant eu dal. Daliwyd tua 11 dyn yn y man ac am ychydig credodd y gardiaid a'r cadlywydd nad oedd unrhyw un wedi dianc. Onibai i ddau garcharor gael eu dal mewn gorsaf heddlu gyfagos, ni fyddai awdurdodau'r gwersyll wedi deall bod dros hanner cant o garcharorion yn rhydd.

Cyn hir roedd lluoedd ac awdurdodau ar draws de Cymru'n hela'r ffoaduriaid. Daliwyd rhai'n eithaf buan wedi iddynt ddianc ond llwyddodd eraill deithio llawer pellach; cuddiodd dau, er enghraifft, mewn cefn lori, a chyrraedd swydd Hampshire ymhen pum niwrnod. Oddi yno, roeddent wedi bwriadu mynd i Southampton a chuddio ar long i'r cyfandir, ond cawsant eu dal yn dringo allan o'r lori.

Erbyn diwedd yr wythnos, roedd pob ffoadur wedi'i ddal. Nid yw nifer union y ffoaduriaid yn sicr a'r nifer tybiedig heddiw yw 67, er bod papurau newydd ar y pryd yn adrodd bod 70 wedi dianc. Beth bynnag yw'r rhif cywir, y ddihangfa hon oedd y fwyaf o'i math ym Mhrydain ac mae'n stori sy'n cystadlu â stori dynion Stalag Luft II a'r 'Ddihangfa Fawr'.