Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Adeiladwyd Gwersyll Island Farm yn wreiddiol fel llety ar gyfer gweithwyr arfau y rhyfel ym Mhen-y-bont ar Ogwr, serch hynny fe barhaodd yn wag hyd nes i'r milwyr Americanaidd gyrraedd ym 1943. Arhosodd yr Americaniaid yno hyd at Ddydd D gan adael y gwersyll yn wag unwaith eto, ond fe'i llenwyd drachefn gyda charcharorion rhyfel Almaenaidd.

Ar ei newydd wedd fe'i hadnabuwyd fel Gwersyll Carcharorion Rhyfel 198 ac, o Dachwedd 1944, Swyddogion Almaenaidd oedd mwyafrif y carcharorion. Ym 1945, dihangodd 72 o'r carcharorion hyn drwy dwnnel, serch hynny llwyddwyd i ddal pob un ohonynt.

Parhaodd Island Farm i gael ei ddefnyddio fel gwersyll carcharorion rhyfel wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Fe'i ailagorwyd fel Gwersyll Cyntaf Arbennig Almaenaidd rhif 11, ar gyfer ei ddefnyddio i gadw Uwch Swyddogion gan gynnwys tri Cadlywydd hyd nes ei gau a'i adael ym 1948.

Ffynhonnell:
Hawthorne, S M (1989) Island Farm Special Camp 11 for Prisoners of War. Bridgend: Brynteg Comprehensive School.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw