Tre’r Ceiri a chaerau cerrig Llŷn

Eitemau yn y stori hon:

  • 947
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 938
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Y cadarnle unigryw

 

Saif Tre’r Ceiri ar safle serth, ac ar gopa’r mynydd ceir ynddi garnedd gladdu sylweddol ei maint o’r Oes Efydd Gynnar. Cafodd y garnedd honno’i diogelu a’i pharchu nid yn unig adeg codi’r fryngaer ond drwy gydol oes y gaer. O amgylch y brif gaer ceir rhagfur eithriadol o gadarn sy’n dal i sefyll hyd at 3.5 metr o uchder mewn mannau. Mae rhan o frig y rhagfuriau bron yn gyflawn ac wedi cadw’r rhodfa ar ei phen. Cyrhaeddir y rhodfa honno ar hyd rampiau ar oledd o du mewn y gaer. Yn y mur mawr hwnnw mae dau brif borth, a’r naill a’r llall yn sicrhau bod y bobl a ddeuai at y gaer yn gwneud hynny ar hyd llwybrau cyfyngedig a chul. Gellir nodi bod yno hefyd dri chilborth, neu fân byrth, ac mae’n debyg, o leiaf, i un ohonynt gael ei gynllunio i alluogi’r trigolion i ddisgyn ar hyd llwybr cul i godi dŵr o ffynnon. Y tu hwnt i’r rhagfur ceir mur allanol rhannol sy’n cynnig amddiffyniad pellach i’r llwybrau mwy agored at ochrau gogleddol a gorllewinol y gaer.

Arolygu a chloddio

 

Gan fod Tre’r Ceiri’n un o fryngaerau gwychaf Prydain, mae’n ddigon naturiol bod llawer o waith arolygu a chloddio wedi’i wneud yno. Yn ystod y 1950au, cynhaliodd y Comisiwn Brenhinol sawl ymgyrch i gloddio ac arolygu bryngaerau’r rhanbarth hon er mwyn gallu llunio disgrifiad cliriach o’u datblygiad ar gyfer inventory Sir Gaernarfon. Gwnaeth W. E. Griffiths ac A. H. A. Hogg arolwg llawn o Dre’r Ceiri ym 1956, gan nodi cyfuchliniau a manylion y llociau ar lethrau’r bryniau cyfagos ac adeiladu ar yr arolwg mesuredig arloesol a wnaed gan Harold Hughes ym 1906. Ffrwyth hyn i gyd oedd creu cofnod arbennig o glir a manwl na ddisodlwyd mohono tan i arolwg total-station modern gael ei wneud ym 1980.

Mae’r gwaith cloddio wedi dangos i’r fryngaer gael ei chodi tua diwedd yr Oes Haearn, mae’n debyg, ac iddi ddal i gael ei defnyddio tan y bedwaredd ganrif OC o leiaf. Ar gopaon uchaf bryngaerau amlwg eraill a godwyd o gerrig ar benrhyn Llŷn, a Charn Boduan a Charn Fadrun yn bennaf, ceir cadarnleoedd o gerrig a’r rheiny wedi’u codi mewn cyfnodau diweddarach. Er mai’r gred yw iddynt fod yn gestyll tywysogion canoloesol Cymru, nid oes tystiolaeth i adeiladwaith o’r fath fod yn Nhre’r Ceiri erioed.

2,000 flynyddoedd o hindreulio

 

Er bod y gweddillion, am ganrifoedd, wedi rhyfeddu’r rhai sydd wedi’u gweld, mae dwy fil o flynyddoedd o hindreulio a dygwympo, ynghyd â phwysau ymwelwyr, wedi gadael eu hôl. Cyn belled yn ôl â 1894 gresynai aelodau o Gymdeithas Archaeolegol Cymru at gyflwr Tre’r Ceiri a’r diffyg diogelu arni:

‘It would hardly be thought that in a civilised community it was possible that such a splendid specimen of a prehistoric city would be allowed to perish miserably… Yet stone by stone Treceiri is being gradually destroyed.’ (Archaeologia Cambrensis Vol. XII Fifth Series, 1895, 147)

Ym 1989 dechreuodd Cyngor Dosbarth Dwyfor a Chyngor Sir Gwynedd, gyda chymorth Cadw, weithredu rhaglen i gyfnerthu ac atgyweirio’r gaer dan oruchwyliaeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Rhedodd y prosiect am ddegawd gan beri ei bod yn bosibl y bydd y gaer hynod hon yn dal i gyffroi chwilfrydedd pobl am ddwy fil o flynyddoedd eto.

 

TGD