arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Llaethdai ym Mhont Llanio a Felin-fach


Sefydlwyd ffatri laeth Pont Llanio gan y Bwrdd Marchnata Llaeth ym 1933 fel storfan casglu llaeth o ffermydd canol Sir Aberteifi. Roedd y ffatri'n cynhyrchu menyn a llaeth powdr ac i drosglwyddo llaeth i danciau rheilffordd i'w gludo ymlaen i Lundain. Ym 1951, oherwydd cynnydd mewn cynhyrchu, agorwyd ffatri arall yn Felin-fach.


Eitemau yn y stori hon

  • 1,243
  • mewngofnodi
  • 870
  • mewngofnodi
  • 1,813
  • mewngofnodi
  • 963
  • mewngofnodi
  • 5,446
  • mewngofnodi
  • 1,478
  • mewngofnodi

Cefndir hanesyddol

Ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd cryn gystadlu a llawer o aneffeithlonrwydd yn y diwydiant llaeth er presenoldeb cryf y cymdeithasau cydweithredol amaethyddol yn y sir. Oherwydd diffyg elwa ar gyfleusterau cludiant, aeth llaeth a gynhyrchwyd ynghanol Sir Aberteifi i wneud menyn a hufen yn lle mynd i'r farchnad laeth, a oedd yn fwy proffidiol ar y pryd. Er enghraifft, adeiladwyd ffatri laeth fach yng ngorsaf reilffordd Pont Llanio ym 1896, dan anogaeth y Cyngor Sir newydd, i gynhyrchu menyn a chynhyrchion cysylltiedig ond ni cheisiwyd manteisio ar y rheilffordd oni i'w defnyddio fel dolen gludiant leol.

Yn dilyn dirywiad yn niwydiant llaethyddiaeth Sir Aberteifi ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, llwyddodd cymdeithasau cydweithredol i gael adfywiad yn ystod y 1920au ac fe wnaethant hyd yn oed arbrofi â marchnata llaeth hylif. Er bod peiriannau godro ar gael, ychydig iawn o ffermwyr a allai fforddio'r cyfarpar a fyddai wedi galluogi cynhyrchaeth sylweddol uwch. Mor ddiweddar â 1939 dim ond 8% o wartheg llaeth yn Lloegr ac yng Nghymru oedd yn cael eu godro gan beiriannau, ac yn Sir Aberteifi roedd gan lai na 15% o ffermydd drydan.

Y Bwrdd Marchnata Llaeth

Nid oedd nes sefydlwyd y Bwrdd Marchnata Llaeth ym 1933 y dechreuwyd casglu, dosbarthu a marchnata llaeth mewn modd mwy trefnus ac ar raddfa fwy nag o'r blaen. Dechreuodd yr economi ffermio yn Sir Aberteifi ddibynnu mwy ar gynhyrchu llaeth o ddiwedd y 1930au ac yn dilyn pwysedd lleol, gwnaed gwelliannau gan y BMLl. Roedd y rhain yn cynnwys cyflwyno 'cylchfaeo' ffermydd a mannau casglu er mwyn lleihau costau cludiant, ac adeiladu storfan wedi'i chysylltu â'r rheilffordd i wasanaethu'r gylchfa ogleddol ym Mhont Llanio.

Agorwyd y ffatri newydd ar 1 Hydref 1937, ac yn y pendraw roedd yn medru trin llaeth hylif, gwahanu llaeth, corddi menyn a chynhyrchu llaeth sgim powdr. Erbyn 1950, roedd 136,200 litr (30,000 galwyn) yn cael ei drin bob dydd, ffigur uchel iawn, ac roedd angen cyflogi dros 120 aelod staff a gweithio 24 awr yn ystod misoedd yr haf.

Ffatri newydd yn Felin-fach

Er bod dirywiad cenedlaethol mewn gwerthiannau ar y pryd, hybodd llwyddiant cynhyrchu llaeth yn yr ardal adeiladu ffatri newydd ym 1951. Roedd yn cael ei hadnabod yn Felin-fach, ac roedd ond 13 cilometr (8 milltir) o Bont Llanio. Roedd wedi'i lleoli yn Green Grove, ar y rheilffordd rhwng Llanbedr ac Aberaeron, a oedd ar y pryd yn wynebu cael ei chau. Daeth yn gynhyrchydd mawr o fenyn, llaeth powdr (gan gymryd drosodd o Bont Llanio) a llaeth enwyn yn ogystal â llaeth hylif. Ym 1956, er bod gwerthiant llaeth ar ei isaf ers cyn yr Ail Ryfel Byd, ehangwyd y ffatri i fedru prosesu 113,500 litr (25,000 galwyn) o laeth bob dydd. Erbyn 1966, roedd Sir Aberteifi'n cynhyrchu'r cyfanswm sylweddol o 92.6 miliwn litr (20.4 miliwn galwyn) o laeth y flwyddyn (cyfartaledd o 253,740 litr [55,890 galwyn] bob dydd), ond arweiniodd rhesymoliad y cyfleusterau prosesu i ddirywiad Pont Llanio, a oedd yn trin ond 45,400 litr (10,000 galwyn) yn ddyddiol gydag ond 32 aelod staff erbyn 1969. Yn dilyn streic gan yrwyr lorïau, caeodd ffatri Pont Llanio a'i chysylltiad rheilffordd ym mis Medi 1970, gyda'r mewnlif o laeth a rhai o'r staff yn cael eu trosglwyddo i Felin-fach.

Casglu llaeth oddi ar ffermydd

Casglwyd llaeth yn ddyddiol, dwywaith y dydd yn yr haf, gan lorïau oddi ar ffermydd yng nghylchfa Pont Llanio mewn buddeiau alwminiwm 45 litr (10 galwyn) safonol. Byddai'r  buddeiau'n cael eu gadael, wedi'u labelu â manylion y ffermwr, ar lwyfannau bach wrth ymyl y ffordd neu orsafoedd llaeth. Roedd rhai gorsafoedd llaeth wedi'u dylunio'n goeth (gweler uchod), ac roedd eraill yn sylfaenol iawn, ond roeddent oll wedi'u hadeiladu i faint safonol a benderfynwyd gan y BMLl. Mae buddeiau'n llawn llaeth yn bethau trwm, felly i'w llwytho ar lori roedd yn rhaid iddynt fod ar lefel llwyfan y lori ac mewn safle lle gallai'r lori fynd ochr yn ochr â nhw. Roedd angen cysgod arnynt hefyd ac roedd angen i'r llwyfan fod yn ddigon mawr i ganiatáu i'r gyrrwr cymaint o fuddeiau gwag ar y llwyfan ag yr oedd yn eu casglu.

Yn y pendraw newidiodd rheolau newydd y ffordd roedd llaeth yn cael ei gludo, ac aeth y llwyfannau buddeiau allan o ddefnydd dros nos. Dechreuodd tanceri cael eu defnyddio i gasglu'r llaeth yn uniongyrchol o danciau rheweiddiedig yn llaethdy'r fferm.

Mae llawer o'r llwyfannau hyn wedi goroesi, heb iddynt gael sylw dros y deugain mlynedd diwethaf. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Dales Swydd Efrog wedi casglu llawer o ffotograffau o'r llwyfannau llaeth hyn a dynnwyd gan wirfoddolwyr, creiriau o'r diwydiant llaeth cyfwerth yno.

http://www.yorkshiredales.org.uk/index/learning_about/historic-environment/fos/churn_stands_main.htm

Gweithrediad a phrosesau'r ffatri

Pan fyddai lori'n cyrraedd y ffatri, byddent yn cael eu dadlwytho ar y llwyfan â gorchudd, neu'r 'dec' fel yr oedd yn cael ei adnabod. Byddai'r buddeiau'n cael eu pwyso, y cynnwys yn cael ei wirio (gan lygad, arogl a thymheredd) a'i wagio i mewn i danc derbyn. Ar unwaith, byddai'r buddeiau'n cael eu diheintio ag ager a'u hail-lwytho ar gefn lori i'w dychwelyd i'r ffermydd. Cyn 1951, roedd llaeth a fyddai'n cael ei anfon ymlaen ar y rheilffordd yn cael ei oeri a'i bwmpio i mewn i danc silindrog mawr uwchlaw'r gilffordd. Pwmpiwyd llaeth a fyddai'n cael ei brosesu'n bellach i mewn i wahanydd a'i rannu'n hufen a llaeth sgim. Roedd yr hufen yn cael ei ddefnyddio i wneud menyn, ac yn cael ei storio mewn ystafell reweiddiedig tra oedd yn aros i gael ei gludo. Roedd y llaeth sgim yn fwy addas na llaeth hufennog i gael ei droi'n bowdr drwy ei chwyth-sychu (credir nad oedd rholio-sychu'n cael ei ddefnyddio yn y ffatri). Roedd y tŵr ffrâm ddur yn dal y cyfarpar ar gyfer y broses. Gan fod gweithlu mawr, roedd ffreutur ar y llawr cyntaf nesaf at y swyddfeydd. Nid yw safle'r bwyler yn hysbys (mae dwy simnai sylweddol i'w gweld yn ffigur 1, ond nid yw'r naill neu'r llall mewn lleoliad addas am fwyler). Daethpwyd â glo ar gyfer y bwyleri i mewn ar y rheilffordd.

Yn y blynyddoedd cynnar, roedd llaeth yn cael ei lwytho i mewn i danciau wagenni rheilffordd  wedi'u leinio â gwydr 13,620 litr (3,000 galwyn) ac fe fyddent yn cael eu casglu gan drenau teithwyr a'u cludo i Gaerfyrddin i'w cysylltu â threnau i Lundain. Roedd wagenni gwag yn cael eu gadael ar y gilffordd fer ar ochr ogleddol yr adeilad a'u symud i'r safle o dan y tanc allbynnu gan ddefnyddio winshis capstan sefydlog. Roedd y BMLl yn prydlesu'r gilffordd ddeheuol i fewnforio glo ond hefyd i hwyluso trefnu wagenni llaeth gwag a llawn. Pan agorwyd ffatri laeth Felin-fach, cyfunwyd tanceri o'r ddwy ffatri yn Llanbedr. Yn ystod dirywiad graddol y gwasanaethau a chau'r rheilffyrdd i'r gogledd o Bont Llanio ac i'r gorllewin o Felin-fach, roedd y ddwy'n derbyn gwasanaeth trenau pwrpasol hyd at dair gwaith bob dydd. Roedd hyn yn golygu gwaith cymhleth gan locomotifau ager o Gaerfyrddin ac yn ddiweddarach peiriannau dosbarth 35 a 37 diesel o gyn belled â Glandŵr, Abertawe.

Rhwydwaith o hufendai

Roedd y ffatri ym Mhont Llanio'n rhan o rwydwaith o hufendai ledled y prif ranbarth cynhyrchu llaeth yng ngorllewin Cymru, y cyfan ohonynt yn cael eu rhedeg gan y BMLl yn y pendraw. Yn Sir Aberteifi roedd ffatri gaws Dried Milk Products yng Nghastellnewydd Emlyn (uchod), a agorodd yng nghyn-wyrcws y dref ym 1920 ac a gaeodd ym 1983. Canolfan Oeri Llanybydder, mae manylion a lleoliad union y lle'n anhysbys. Ffatri fenyn Hufenfeydd Tivyside Creameries yng Nghapel Dewi, mae manylion a lleoliad union y lle'n anhysbys. Y Ffatri Fenyn yn Llanbedr, a gaewyd ym 1927, a'r ffatri yn Felin-fach uchod. Y tu allan i'r sir roedd storfan ddosbarthu llaeth hylif United Dairies yng Nghaerfyrddin; ffatri fenyn, llaeth powdr a phacio menyn yn Hendy-gwyn, a'r ffatri caws caled yn Johnstown i'r gorllewin o Gaerfyrddin, a gaeodd ym 1986.

Cyfrannwyd y stori gan CBHC

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw