Tŷ Hir Cymreig: Nannerth-ganol
Nodweddion Nannerth-ganol Mae'r rhyngdoriad uchod yn dangos prif nodweddion y tŷ. Roedd Nannerth-ganol yn adeilad carreg sylweddol gyda waliau trwchus a thŷ a beudy'n gysylltiedig â'i gilydd ac fe ellid eu diogelu o'r tu mewn. Mae'n dŷ ffrâm nenfforch ac mae'r trawstiau bwaog mawr hyn, wedi'u duo gan fwg mewn mannau, yn perthyn i'r cyfnod pan adeiladwyd y tŷ gyntaf. Yn ddiweddarach gosodwyd lle tân yn erbyn y nenfforch. Roedd y simnai dal a thenau'n datgan balchder perchennog Nannerth-ganol yn ei dŷ newydd, cysurus. Mae dendrocronoleg wedi profi y cafodd y coed a ddefnyddiwyd ar gyfer y trawstiau eu torri ynghanol yr 16eg ganrif. Roedd gwaith adeiladu wedi hen ddechrau erbyn gwanwyn 1556, ac mae'n debygol y cafodd y lle tân ei adeiladu tua diwedd yr 16eg ganrif. Cyd-destyn hanesyddol: Tai hir a lladrata gwartheg Nid cartref dyn tlawd mo hwn. Fe allai adeiladwr Nannerth-ganol yn fwy na thebyg fforddio adeiladu tŷ o fath gwahanol pe dymunai. Mae angen deall y tŷ hir yn nhermau'i gyd-destun, ond pwy a'i adeiladodd a phryd? Mae dogfennau'n dangos yr oedd gan Bedo (neu Maredudd) ap Steven, Nannerth-ganol ar brydles hir, ac ymddangosodd ei feibion yn Llys y Sesiwn Fawr yn Sir Faesyfed am dri achos gwahanol o ladrata gwartheg. Thomas oedd y prif droseddwr ac Edward oedd yr affeithiwr. Ni aethant i ymateb i'r cyhuddiadau ac fe gawsant eu rhoi ar herw. Mae'n rhaid y dihangodd y ddau i'r coed ac ni fedrent ddychwelyd tan fu datganiad pardwn cyffredinol ar ddechrau teyrnasiad Elizabeth. Roedd Nannerth-ganol o hyd yn dŷ newydd pan ddychwelodd Thomas ac Edward i bledio'u hachos ac i gael mechnïaeth am eu hymddygiad da yn y dyfodol. Mae'n hynod bod y cyhuddiadau hyn o ladrata gwartheg yn cyd-ddigwydd ar yr un pryd ag yr adeiladwyd Nannerth-ganol. Roedd lladrata gwartheg yn ffordd beryglus ond amlwg i ennill arian yn gyflym ac fe all fod, wrth gwrs, yr helpodd i dalu am y tyddyn, tŷ a beudy mawr, drud. Fe allai beudy mawr a diogel mewn tŷ hir gael ei ddefnyddio nid yn unig i ddiogelu gwartheg ond hefyd i'w cuddio. Nid ydym yn gwybod union amgylchiadau Nannerth-ganol ond mae'n glir fod rhaid meddwl am y tŷ hir yn rhannol mewn perthynas ag economi gwledig lle'r oedd lladrata gwartheg yn gyffredin. Roedd tai hir yn gynhyrchion amgylchiadau hanesyddol penodol. Roeddent yn cynnig diogelwch ychwanegol i wartheg dros y gaeaf mewn ardaloedd lle'r oedd lladrata gwartheg yn gyffredin. Mae nifer y ditmentau am ladrata gwartheg yn codi yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg, ac yn cyrraedd uchafbwynt ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg. Gellir ystyried y tyddyn tŷ a beudy'n ymateb call i'r amgylchiadau hyn.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment