Rhyfel a Choffadwriaeth

Eitemau yn y stori hon:

  • 903
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,317
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,421
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Y Rhyfel Mawr – Cofadeiladau

Mae un o'r cofadeiladau Rhyfel Byd Cyntaf mwyaf dramatig yn Ffrainc. Mae'n ddraig goch Gymreig yn gafael mewn darn o wifren bigog yn edrych tua Mametz Wood. Mae'n coffáu 38ain Adran y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a'u brwydr lwyddiannus i gipio safle strategol hanfodol ym 1916. Roedd y gost yn uchel iawn – collodd yr Adran bron 4,000 o ddynion, llawer ohonynt yn brwydro am y tro cyntaf.

Effeithiwyd ar yr holl gymunedau yng Nghymru'n ddwfn gan y Rhyfel Mawr, nid yn unig gan y colledion mawr a ddioddefwyd, er enghraifft, ym Mwrog Street, Rhuthun, ni ddychwelodd un dyn i bob 2.9 tŷ, ond hefyd colled Cymry Cymraeg rhugl; amcangyfrifir i tua 20,000 o siaradwyr Cymraeg farw. Roedd y bardd o Drawsfynydd, Ellis Humphrey Evans, sy'n cael ei adnabod yn well gan ei enw barddol, Hedd Wyn, hefyd yn Ffiwsiliwr Brenhinol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw cyn clywed ei fod wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1917. Ysgrifennodd fardd arall a enillodd y Gadair, R. Williams Parry, gerdd goffa i Hedd Wyn o'r enw: 'Englynion Coffa Hedd Wyn', a'r englyn enwog isod sydd ar gofeb ryfel Penygroes, Gwynedd:

O Gofadail gofidiau - tad a mam!

Tydi mwy drwy'r oesau

Ddysgi ffordd i ddwys goffau

Y rhwyg o golli'r hogiau

Mae'r cerddi hyn yn mynegi'r profiad a deimlwyd gan y rhan fwyaf o deuluoedd yng Nghymru wrth iddynt golli aelodau, ac ar ôl y rhyfel daeth cofio'r meirw'n rhan o'r broses iachau. Codwyd cofadeiladau ym mhob cymuned, gan fwyaf wedi'u lleoli ynghanol y gymuned fel canolbwynt a man cyfarfod ac felly'n cadw'r cof am y 'Rheini a Gollwyd' yn fyw.

Roedd y cofadeiladau a godwyd yng Nghymru ar ôl y Rhyfel Mawr yn cwmpasu cerrig ar eu traed eu hunain a champweithiau cerfluniol a phlaciau syml mewn capeli, eglwysi, ysgolion, swyddfeydd post a banciau. Gyda'i gilydd, dyma'r casgliad mwyaf o gofebion cyhoeddus yng Nghymru, ac mae enghreifftiau ym mhob cymuned. Hefyd, mae neuaddau coffa mewn pentrefi a maestrefi ledled Cymru, gyda'r geiriau 'Neuadd Goffa' yn amlwg ar eu talcenni.

'Dai Greatcoat' a ffigur heddwch noeth

Mae llawer o gofebion ar ffurf gerfluniol ac yn rhestru enwau'r rheini a fu farw. Roedd y groes – yn aml y Groes Geltaidd – yn boblogaidd, yn enwedig mewn cymunedau llai, ond mae llawer o gerfluniau ffigurol drud hefyd. Comisiynodd llawer o gymunedau gwledig gofebion gyda cherflun milwr yn galaru ac yn pwyso ar ei reiffl. Roedd y 'Tommy' yn sefyll am bawb a wasanaethodd yn y Rhyfel Mawr ac mae darluniadau o wasanaethwyr eraill (fel y morwr yng Nghaergybi) yn brin. Mae milwyr yn Llambedr, Caerfyrddin a Llandaf yn syllu i'r pellter, ond mae'r cerfiad cerfwedd o filwr yn Y Waun yn wahanol iawn; mae'n rhaid ei fod yn cynrychioli'r 'Dai Greatcoat' stoic. Mae cynrychiolaethau alegorïaidd o heddwch yn fwy prin, ac mae ffigur noeth Heddwch yn Aberystwyth (uchod) yn ymddangos o ddryslwyni rhyfel wedi cael ei edmygu gan genhedloedd, heb iddynt o reidrwydd feddwl am goffadwriaeth.

Gwrthdaro diweddarach

Collwyd hanner cymaint o ddynion a menywod yn yr Ail Ryfel Byd ac ni wnaeth arwain at godi llawer o gofebion newydd. Ychwanegwyd enwau meirw pob cymuned i'r rhestri a oedd eisoes ar gofadeiladau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae enwau'r rheini a gollwyd mewn gwrthdaro diweddarach wedi cael eu hychwanegu hefyd.

Am fanylion y cofebion yng Nghymru, gweler Llechres Wladol Cofadeiladau'r Deyrnas Unedig (www.ukniwm.org.uk). Fe all grantiau fod ar gael am gofebion rhyfel oddi wrth Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel. Fe all yr ymddiriedolaeth hefyd gynnig cyngor ar ddulliau cadwraeth addas. Am wybodaeth am Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ymwelwch ag Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig; ar-lein neu yng Nghastell Caernarfon.

Cyfrannwyd y stori gan: CBHC