Adeiladu Mynydd Gwefru

Eitemau yn y stori hon:

Trydan

Ar ddechrau'r 20fed ganrif fe aeth trydan o fod yn foethusrwydd prin i fod yn anghenraid bob dydd. Roedd tramffyrdd, rheilffyrdd trefol, ymchwydd mewn anghenion cartrefu a diwydiant yn golygu galw llawer mwy am drydan.

Cyn y 1920au dim ond ychydig o gynlluniau hydro-electrig bychain yn cynnig ynni i ddiwydiannau lleol oedd yn bodoli ac roedd y rhain yn aml mewn lleoedd anghysbell oherwydd yr amodau sydd eu hangen arnynt. Roedd gogledd Cymru, gyda'i llynnoedd yn y mynyddoedd a'i glawiad uchel yn ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu trydan, ond yn bell o'r canolfannau trefol lle'r oedd ei angen. Wedi i Ddeddf Cyflenwi Trydan 1926 sefydlu rhwydwaith drydan gyfesurynnol genedlaethol (y Grid Cenedlaethol), yn darparu cysylltiadau dros y wlad, tyfodd y datblygiad mewn ynni hydro-electrig. Fel canlyniad adeiladodd Cwmni Ynni Trydan Gogledd Cymru gorsafoedd pŵer hydro-electrig mawr ym Maentwrog a Thrawsfynydd rhwng 1926 a 1928, a oedd yn cynnig ynni i'r Grid Cenedlaethol. Fel canlyniad i'r grid, erbyn 1933 roedd gan tua hanner y tai yng Nghymru drydan ac fe ryddhawyd prosesau diwydiannol o orfod defnyddio ynni stêm.

Ym 1948 gwladolwyd y diwydiant cyflenwi trydan ac fe grëwyd yr Awdurdod Trydan Canolog (CEA). Yn yr un flwyddyn comisiynwyd y peiriannydd o'r Alban, James Williamson, prif arbenigydd y DU mewn cynhyrchu ynni hydro-electrig, i wneud arolwg o chwe safle hydro-electrig posibl yng Ngogledd Cymru. Aeth mesurau i'w caniatáu o flaen y senedd ym 1952 ac ym 1955. Yn y dadleuon ynglŷn â Deddf Ynni Hydro-electrig Gogledd Cymru 1952, dywedodd Syr Gerald Navarro mai:

“Bwriad Awdurdod Trydan Prydain yw creu nid llai nag wyth sefydliad hydro-electrig mawr. Maent yn estyniad i gynllun Maentwrog, estyniad i gynllun Dolgarrog, cynllun newydd yn Ffestiniog; yna, os caiff y cynlluniau hynny eu cymeradwyo, fe fydd  Awdurdod Trydan Prydain yn bwrw ymlaen â chynllun newydd mawr yn Rheidol, ac yna cynlluniau newydd ym Mawddach a Chonwy, ac, i gloi, y cynlluniau ar Yr Wyddfa'i hun ac yn Nant Ffrancon.”

Ym 1957 aeth cyfrifoldebau'r CEA i'r Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog (CEGB), a rhwng 1957 a 1963 fe adeiladwyd yr orsaf bŵer pwmpio a storio hydro-electrig gyntaf ym Mhrydain yn Ffestiniog. Erbyn hyn gobeithiwyd y byddai ynni hydro-electrig yn ategu'r diwydiant ynni niwclear llai hyblyg a oedd yn datblygu.

Cynigiwyd y syniad o gynllun yn Ninorwig gan y CEGB gyda James Williamson (mewn cysylltiad â Binnie & Partners) ym 1969. Ym 1973, ceisiodd Mesur Ynni Hydro-electrig Gogledd Cymru pellach gael caniatâd oddi wrth y senedd i adeiladu'r orsaf bŵer. Roedd y mesur yn cael ei wrthwynebu gan Bwyllgor Diogelu Hydro-electrig Gogledd Cymru – pwyllgor a sefydlwyd yn ystod y 1940au a oedd yn cynrychioli'r YHA, a sefydliadau cadwraeth, dringwyr a cherddwyr. Cawsant gefnogaeth nifer o ASau a wnaeth sawl cynnig ar rwystro'r Mesur. Mynegodd Cyngor Mynydda Prydain ei bryderon ynglŷn â'r perygl i gyfleusterau'r Parc Cenedlaethol Eryri newydd oddi wrth y cynllun arfaethedig: 'Yn ein barn ni mae hyn yn enghraifft arall o erydu pwrpasau sylfaenol Parciau Cenedlaethol am resymau buddioldeb.' ond bu'r ymgyrch yn aflwyddiannus yn y pendraw. Roedd y dadleuon o blaid y mesur yn argyhoeddiadol:

'Mae gennych lyn sydd ddim llai na 800 troedfedd uwchben y llyn islaw ac rydych yn dechrau'r ynni hyblyg sy'n perthyn i chi – rhywbeth sy'n anarferol a rhyfeddol. Mae'r ynni hyblyg sydd ynghlwm yn gymaint fel y gall y peiriant fynd o ddim i 1,320 megawat mewn deg eiliad. Fe all gynhyrchu 1½ miliwn cilowat i fwydo i mewn i'r grid'.

Symud mynyddoedd o lechen

Ym 1975 enillodd consortiwm peirianneg  Alfred McAlpine / Brand / Zschokke y cytundeb peirianneg sifil mwyaf erioed ar y pryd gan lywodraeth y DU a dechreuodd y gwaith ar drawsnewid chwarel lechi Dinorwig yn Llanberis, Gogledd Cymru; chwarel canrifoedd oed a gaeodd chwe blynedd yn gynharach.

Rhan fawr o'r gwaith i greu'r orsaf bŵer danddaearol oedd cloddio'r 16 cilomedr o dwneli, yn bell o dan Fynydd Elidir. Bu rhaid symud tua 12 miliwn tunnell o lechen i greu'r twneli anferth a'r neuaddau peiriannau. I'w hadeiladu roedd angen 1 miliwn tunnell o goncrit, 200,000 tunnell o sment a 4,500 tunnell o ddur. Cyflogwyd tua 2,000 o weithwyr i adeiladu'r orsaf bŵer ac roedd yn rhan o'r cytundebau o'r cychwyn y byddai'r rhan fwyaf o'r gweithwyr yn bobl leol. Roedd hanes hir a balch o chwarelu a chloddio llechi yn yr ardal ac roedd llawer o brofiad gan bobl leol o drin y naw math o lechen sydd i'w cael yn Ninorwig. Ond roedd gwasgiad dechrau'r 1970au'n galed ac roedd llawer o ddiweithdra. Yn y pendraw roedd 95% o'r bobl a oedd yn cael eu talu yn ôl yr awr yn byw o fewn 50 milltir i'r safle.

Am y rheswm hwn, o bosibl, croesawyd adeiladu'r orsaf gan bobl leol o'r dechrau. Wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen a daeth y prosiect yn fwy adnabyddus oherwydd yr heriau a'r llwyddiannau, parhaodd i fri'r prosiect a'r gweithlu dyfu.

Medrusrwydd mewn Peirianneg ac Arloesi

Daeth gwaith cynllunio'r argaeau ag arbenigwyr at ei gilydd o feysydd amrywiol yn cwmpasu daeareg peirianegol, mecaneg bridd, mecaneg creigiau, hydroddaeareg, geoffiseg beirianegol a geomorffoleg prosesau rhewlifol. Casglwyd mapiau peirianneg ddaearegol ar gyfer y naill safle argae a basn cronfa ddŵr. Defnyddiwyd mapiau o'r fath, sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin erbyn hyn, am y tro cyntaf yn Ninorwig.  Arloesiad arall yn Ninorwig oedd creu tîm peirianneg creigiau a oedd yn cyfuno ymdrechion peirianwyr, daearegwyr a thechnegwyr, gyda chefnogaeth labordy ar y safle. Gallai'r tîm hwn ddadansoddi a datrys problemau sadrwydd, cefnogaeth ac offeryniaeth creigiau ar y safle wrth iddynt godi.

“Cadw prydferthwch naturiol yr ardal i'r cyhoedd”

Mae'r ardal sy'n amgylchynu Dinorwig yn enwog am ei golygfeydd gwych o Nant Peris a Llyn Padarn i fyny bwlch y cwm tuag at Eryri. Roedd Deddf Ynni Hydro-electrig Gogledd Cymru 1973 yn galw am benodiad ymgynghorydd tirlun i: 'gadw prydferthwch naturiol yr ardal i'r cyhoedd ac i gadw fflora a ffawna a'r nodweddion geolegol neu geoffisegraffyddol o ddiddordeb gwyddonol.'

Roedd yr adeiladu bron yn gyfan gwbl dan ddaear, ac roedd gweddillion y chwarel lechi'n ei wneud yn bosibl adeiladu strwythurau peirianyddol yn anymwthiol. Plannwyd coed a pherthi cynhenid i sgrinio, neu i ganolbwyntio golygfeydd a chuddio'r gweithfeydd newydd yn nhirwedd y cwm. Deallwyd mai'r broblem gydag argaeau mewn tirwedd fynyddig yw eu bod yn tueddu i gael crib wastad yn creu llinell syth sy'n cyferbynnu amlinell y mynyddoedd ar y naill ochr iddynt. Mae gan Argae Dinorwig gromlin raddol yn cysylltu'r mynyddoedd ar y naill ochr iddi ac mae felly'n anymwthiol iawn. Dangosodd yr adeiladu yn Ninorwig sensitifrwydd i'w amgylchedd mewn ffyrdd eraill, fel claddu ceblau am chwe milltir ac adeiladu'r ychydig adeiladau gweinyddol o garreg leol o'r hen adeiladau chwarel. Tipiwyd gwastraff o'r cloddiadau, ynghyd â'r tomennydd llechen gwastraff a fu yno o'r chwarelu gynt i mewn i hen chwareli neu i rannau dyfnach Llyn Peris.

Y ffordd mae'n gweithio

Mae'r orsaf bŵer yn defnyddio'r ddau lyn – Marchlyn Mawr a Llyn Peris – am ei gynllun pwmpio a storio dŵr. Pan mae angen ynni, mae dŵr o Farchlyn Mawr yn cael ei ollwng i lawr twnnel 3.2 cilomedr o hyd drwy gyfres o fewnfalfiau, gan yrru chwe thyrbin wrth iddo basio drwy siambr gynhyrchu ar ei ffordd i Lyn Peris 500 metr islaw. Gall pob falf, gyda'i gwrthbwysyn 16 tunnell anferth, agor mewn 5 eiliad, gan adael i 75,000 litr o ddŵr lifo drwyddi bob eiliad. Mae'r dŵr yn troi pwmp tyrbin. Mae'r cynhyrchydd yna'n cynhyrchu trydan i'w ddefnyddio yn ystod y dydd a chyfnodau galw brig. Ar ddiwedd y cylchred, mae trydan allfrig yn cael ei ddefnyddio i yrru'r generaduron a thrawsnewid y tyrbinau'n bympiau i wthio'r dŵr yn ôl i'r llyn uchaf.

Dechreuodd Dinorwig weithio ym 1983 ac fe'i hagorwyd gan Dywysog Charles ar 9 Mai 1984. O'r tu allan, y cyfan sydd i'w weld o'r orsaf bŵer yw drws yn ochr y mynydd, sy'n sicrhau nad yw'r ardal arbennig o hardd yng nghalon Eryri sy'n ei hamgylchynu'n cael ei niweidio.

Perchnogion presennol yr orsaf bŵer yw First Hydro Cyf., sy'n trefnu teithiau o'r safle ac yn rheoli canolfan ymwelwyr Mynydd Gwefru. Am fwy o wybodaeth ewch at wefan First Hydro.

Cyfrannwyd y stori gan: CBHC