Pwll Nofio'r Gymanwlad, Caerdydd
Pwll newydd i ddinas newydd
Roedd Pwll Nofio'r Gymanwlad, a agorodd ym 1958, yn arwydd o statws newydd Caerdydd fel Prifddinas Cymru, a ganiatawyd ym 1955. Roedd yr adeilad hamdden newydd hefyd yn cynrychioli diwedd y caledi wedi'r rhyfel ac yn cyflwyno'r adeilad cyhoeddus modernaidd cyntaf yn y ddinas.
Roedd cynllun adran Pensaer y Ddinas yn bendant wedi'i ddylanwadu, yn uniongyrchol neu beidio, gan adeiladau cyhoeddus / diwydiannol dechrau'r 20fed ganrif. Mae tebygrwydd trawiadol rhwng Pwll Nofio'r Gymanwlad â Ffatri Tyrbinau A.E.G. 1908 yn Berlin. Mae Pwll Nofio'r Gymanwlad yn floc petryal ffrâm concrit dur gyda chladin brics ymarferol a tho baril. Mae blaen eithaf caled gyda mynedfa ganolog lathredig uchel. Y tu mewn i'r adeilad, roedd gan y pwll gynllun 'awditoriwm'. Roedd seddi codi coch a llwyd ar ymylon y pwll hir (55 llath yn wreiddiol, ond wedi'i leihau i 50 metr yn ddiweddarach), gyda'r llwyfannau plymio ar y pen gogleddol. Roedd lle i 1,772 o wylwyr – mwy nag oedd gan y rhan fwyaf o adeiladau hamdden dan do. Roedd grisiau ar naill ochr y cyntedd llathredig wrth y fynedfa'n arwain at yr ystafelloedd newid ar y llawr cyntaf a'r caffi hynod gyda'i lawr parquet a chromiwm ar yr ail lawr.
Pwll Nofio'r Gymanwlad a Pharc yr Arfau Caerdydd; roedd y ddau'n adeiladau cyhoeddus lluniaidd a'r ddau'n hoff adeiladau Caerdydd wedi'r rhyfel yn ffurfio grŵp o adeiladau 'hamdden' diddorol gerllaw adeiladau nodedig gorsaf Ganolog y rheilffordd (1932-4) a'r orsaf fysiau a adeiladwyd ar safle terasau Temperance Town y 19eg ganrif.
Cynnal Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd, 1958
Gemau'r Gymanwlad, 1958, oedd y digwyddiad chwaraeon mwyaf i gael ei gynnal yng Nghymru erioed ar y pryd. Bu rhaid i Gaerdydd aros 12 mlynedd yn hirach nag a benderfynwyd yn wreiddiol i gynnal y Gemau, gan i ddigwyddiad 1946 gael ei ganslo oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Cynrychiolwyd 35 o wledydd, y nifer mwyaf erioed ar y pryd, gyda nifer o dimau'n cystadlu am y tro cyntaf.
Enillodd Cymru 11 medal, gan gynnwys 1 fedal aur, 3 arian a 7 efydd. Howard Winstone (uchod) oedd enillydd y fedal aur; fe enillodd yr adran pwysau bantam yn y paffio. Cynhaliwyd cystadlaethau nofio a phlymio yn y Pwll newydd, rhwyfo ar Lyn Padarn, a rhedeg a seiclo yn Stadiwm Maendy.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment